Cam 1: Cyn i chi wneud cais
Grant Dysgu Llywodraeth Cymru, cyllid ar gyfer Addysg Bellach

Rhieni a phartneriaid

Beth yw Grant Dysgu Llywodraeth Cymru (Addysg Bellach)?

Grant a gaiff ei asesu ar sail incwm yw Grant Dysgu Llywodraeth Cymru (Addysg Bellach), y bwriedir iddo annog pobl 19 oed a hŷn i barhau ag addysg bellach. 

Caiff taliadau eu gwneud dair gwaith y flwyddyn yn uniongyrchol i gyfrif banc y myfyriwr.

Os oes unrhyw un yn eich cartref yn cael Grant Dysgu Llywodraeth Cymru (Addysg Bellach), ni fydd y taliadau hynny’n effeithio ar unrhyw fudd-daliadau sy’n cael eu talu i chi neu’r myfyriwr.

Trothwyau ar gyfer incwm y cartref

Bydd y swm a gaiff y myfyriwr yn dibynnu ar gyfanswm incwm eich cartref.

Gall myfyrwyr llawn-amser gael hyd at £1,500 y flwyddyn, a gall myfyrwyr rhan-amser gael hyd at £750 y flwyddyn.

Mae’r tabl yn dangos faint allech ei gael yn seiliedig ar incwm eich cartref.

Incwm blynyddol y cartref Rhan-amser (275 – 499 o oriau) Llawn-amser (500+ o oriau)
Hyd at £6,120 £750 £1,500
£6,121 – £ 12,235 £450 £750
£12,236 – £18,370 £300 £450
£18,371 a mwy £0 £0

Beth y bydd angen i chi ei wneud

Er mwyn i’r myfyriwr fod yn gymwys i gael Grant Dysgu Llywodraeth Cymru (Addysg Bellach), bydd angen i chi a’r myfyriwr ddarparu gwybodaeth am incwm ariannol i gefnogi ei gais/ei chais.

Byddwn yn gofyn am wybodaeth am incwm y cartref 2 flwyddyn dreth yn ôl.

Er enghraifft

Os yw’r myfyriwr yn gwneud cais ar gyfer blwyddyn academaidd 2023 i 2024, byddwn yn gofyn am eich gwybodaeth ariannol o flwyddyn dreth 2021 i 2022.

Myfyrwyr dibynnol

Pan fydd y myfyriwr yn gwneud ei gais/ei chais, byddwn yn gofyn am fanylion ei incwm/ei hincwm. Bydd angen eich manylion incwm arnom hefyd os mai chi yw’r myfyriwr:

  • rhiant/ rhiant mabwysiol y myfyriwr
  • llys-riant y myfyriwr
  • partner rhiant y myfyriwr

Ni fyddwn yn gofyn am wybodaeth gan:

  • unrhyw un o frodyr neu chwiorydd y myfyriwr, sy’n byw yn yr un cartref â’r myfyriwr
  • unrhyw riant neu lys-riant nad yw fel rheol yn byw yn yr un cartref â’r myfyriwr (hyd yn oed os yw’n gwneud taliadau cynhaliaeth)

Bydd yr incwm uchaf, boed gan y rhieni neu’r myfyriwr, yn cael ei ddefnyddio i asesu faint o arian y mae gan y myfyriwr hawl i’w gael.

Myfyrwyr annibynnol

Pan fydd y myfyriwr yn gwneud ei gais/ei chais, byddwn yn gofyn am fanylion ei incwm/ei hincwm.

Os nad yw’r myfyriwr yn byw gyda’i riant/rhieni ac os chi yw partner y myfyriwr, bydd angen i chi roi manylion eich incwm chi ar y ffurflen gais.

Bydd yr incwm uchaf, boed gennych chi neu’r myfyriwr, yn cael ei ddefnyddio i asesu faint o arian y mae gan y myfyriwr hawl i’w gael.

Os yw incwm eich cartref wedi gostwng

Os yw incwm eich cartref wedi gostwng yn barhaol ers blwyddyn dreth 2020 i 2021, gallwn asesu cais y myfyriwr gan ddefnyddio incwm eich cartref yn ystod y flwyddyn bresennol. Bydd angen i chi anfon tystiolaeth o’ch incwm presennol chi a’r myfyriwr. Rhaid i’r dystiolaeth ddangos y bu gostyngiad parhaol mewn incwm ers blwyddyn dreth 2021 i 2022.

Mae’r nodiadau cyfarwyddyd ynghylch gwneud cais yn cynnwys rhagor o wybodaeth am y mathau o dystiolaeth y gallwch eu hanfon.

Pan fydd Grant Dysgu Llywodraeth Cymru (Addysg Bellach) wedi’i ddyfarnu i’r myfyriwr, mae’n bosibl y byddwn yn cysylltu ag ef/hi yn y dyfodol i ofyn am dystiolaeth. Diben hynny yw sicrhau bod y myfyriwr yn dal yn gymwys.