Sut mae gwneud cais a phryd


Bydd gwneud cais yn gynnar yn golygu bod gennych y siawns orau o gael cadarnhad ynglŷn â’ch cyllid a’i dderbyn erbyn dechrau eich cwrs.

Flwyddyn academaidd 2023 i 2024

Sut i wneud cais

Dylech ymgeisio ar-lein drwy greu cyfrif neu fewngofnodi. Dim ond tua 30 munud y dylai gymryd!

Os na allwch wneud cais ar-lein, bydd angen i chi lenwi ffurflen bapur yn lle hynny.

Os ydych yn gwneud cais am Grant Dysgu Llywodraeth Cymru (Addysg Bellach) ar gyfer blwyddyn academaidd 2023 i 2024. Yna, gallwch lawrlwytho a llenwi’r ffurflen er mwyn ei hanfon atom. Mae nodiadau cyfarwyddyd ar gael i’ch helpu gyda’r ffurflen.

Os nad oes gennych chi argraffydd, gallwch chi gael pecyn cais o'ch ysgol neu goleg.

Gall ceisiadau gael eu derbyn hyd at 9 mis ar ôl dyddiad dechrau eich cwrs, a gellir derbyn tystiolaeth ar gyfer eich cais hyd at 12 mis ar ôl dyddiad dechrau eich cwrs. Er enghraifft, os dechreuodd eich cwrs ar 1 Medi 2023:

  • Bydd angen i chi anfon eich cais erbyn 31 Mai 2024
  • Bydd angen i chi ddarparu unrhyw dystiolaeth y mae arnom ei hangen erbyn 31 Awst 2024

Cofiwch lofnodi eich Cytundeb GDLlC AB yn eich coleg i gael eich arian ar ôl i ni brosesu eich cais.

I gael rhagor o wybodaeth am Grant Dysgu Llywodraeth Cymru (Addysg Bellach) yn 2023 i 2024:

Flwyddyn academaidd 2022 i 2023

Os ydych yn gwneud cais am Grant Dysgu Llywodraeth Cymru (Addysg Bellach) ar gyfer blwyddyn academaidd 2022 i 2023. Yna, gallwch lawrlwytho a llenwi’r ffurflen er mwyn ei hanfon atom. Mae nodiadau cyfarwyddyd ar gael i’ch helpu gyda’r ffurflen.

Gall ceisiadau gael eu derbyn hyd at 9 mis ar ôl dyddiad dechrau eich cwrs, a gellir derbyn tystiolaeth ar gyfer eich cais hyd at 12 mis ar ôl dyddiad dechrau eich cwrs. Er enghraifft, os dechreuodd eich cwrs ar 1 Medi 2022:

  • Bydd angen i chi anfon eich cais erbyn 31 Mai 2023
  • Bydd angen i chi ddarparu unrhyw dystiolaeth y mae arnom ei hangen erbyn 31 Awst 2023

Cofiwch lofnodi eich Cytundeb GDLlC AB yn eich coleg i gael eich arian ar ôl i ni brosesu eich cais.

I gael rhagor o wybodaeth am Grant Dysgu Llywodraeth Cymru (Addysg Bellach) yn 2022 i 2023:

Dyddiadau pwysig

Ebrill

Bydd y cyfnod i wneud ceisiadau ar gyfer y flwyddyn academaidd newydd yn agor. Gorau po gyntaf y gwnewch chi eich cais. Peidiwch â phoeni os nad ydych yn gwybod a fyddwch yn parhau i astudio yn yr ysgol neu’n mynd i goleg. Gallwch wneud cais o hyd a rhoi gwybod i ni os bydd unrhyw beth yn newid.

9 mis ar ôl dyddiad dechrau eich cwrs

Rhaid ein bod wedi derbyn eich cais.

12 mis ar ôl dyddiad dechrau eich cwrs

Rhaid ein bod wedi cael yr holl wybodaeth a’r holl dystiolaeth.

Myfyrwyr sy’n dychwelyd

Os dyma’r ail neu’r drydedd flwyddyn y byddwch yn cael Grant Dysgu Llywodraeth Cymru (Addysg Bellach), gallwch gael gafael ar ragor o wybodaeth drwy fynd i’n tudalen ynglŷn â Myfyrwyr sy’n dychwelyd.