Cyhoeddwyd: 09 Mai 2022 · Diweddarwyd ddiwethaf: 28 Ebrill 2022  · Tagiwyd yn:  2022 i 2023  a  ôl-raddedig

Mae’n bryd i fyfyrwyr wneud cais am gyllid myfyrwyr ôl-raddedig!


Mae’r cyfnod i wneud ceisiadau am Gyllid Graddau Meistr Ôl-raddedig a Benthyciadau Graddau Doethur Ôl-raddedig ar gyfer 2022 i 2023 wedi agor erbyn hyn!

Y ffordd hawsaf i fyfyrwyr wneud cais yw ar-lein (yn agor mewn tab newydd).

Mae’n bwysig eu bod yn gwneud cais cyn gynted ag y bo modd neu mae’n bosibl na chânt eu talu mewn pryd ar gyfer dechrau eu cwrs.

Gall myfyrwyr wneud cais am gyllid hyd yn oed os nad oes lle wedi’i gadarnhau ar eu cyfer eto ar gwrs. Dylent roi manylion y cwrs y maent yn ei ffafrio i ni a’u newid yn nes ymlaen os oes angen.

Cael gwybod pa gyllid sydd ar gael yn 2022 i 2023

Ewch i’n tudalennau i gael gwybod pwy sy’n gymwys, faint o arian y gall myfyrwyr ei gael a pha help ychwanegol sydd ar gael i fyfyrwyr ag anabledd.

I gael rhagor o wybodaeth, gwyliwch ein ffilmiau sy’n esbonio Cyllid Graddau Meistr Ôl-raddedig (yn agor mewn tab newydd) a Benthyciadau Graddau Doethur Ôl-raddedig (yn agor mewn tab newydd)

Newyddion cysylltiedig

Gwybodaeth ac adnoddau newydd ar gyfer myfyrwyr sydd wedi ymddieithrio a myfyrwyr sy’n gadael gofal

Diweddariadau pwysig i fyfyrwyr sy'n gymwys i gael cyllid i fyfyrwyr fel rhai sydd wedi ymddieithrio oddi wrth eu rhieni neu sy'n gadael gofal.

Helpu myfyrwyr i gael eu taliad cyllid myfyriwr cyntaf

Mae'n bwysig eich bod yn helpu myfyrwyr i wybod beth i'w wneud i gael eu taliad cyllid myfyriwr cyntaf mewn pryd.

Mae’r dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am gyllid myfyrwyr israddedig llawn-amser wedi pasio

Mae’n bwysig atgoffa myfyrwyr nad yw’n rhy hwyr iddynt wneud cais a chael rhywfaint o arian mewn pryd ar gyfer dechrau’r tymor.