Mae’n bryd i fyfyrwyr wneud cais am gyllid myfyrwyr ôl-raddedig!


Mae’r cyfnod i wneud ceisiadau am Gyllid Graddau Meistr Ôl-raddedig a Benthyciadau Graddau Doethur Ôl-raddedig ar gyfer 2022 i 2023 wedi agor erbyn hyn!

Y ffordd hawsaf i fyfyrwyr wneud cais yw ar-lein.

Mae’n bwysig eu bod yn gwneud cais cyn gynted ag y bo modd neu mae’n bosibl na chânt eu talu mewn pryd ar gyfer dechrau eu cwrs.

Gall myfyrwyr wneud cais am gyllid hyd yn oed os nad oes lle wedi’i gadarnhau ar eu cyfer eto ar gwrs. Dylent roi manylion y cwrs y maent yn ei ffafrio i ni a’u newid yn nes ymlaen os oes angen.

Cael gwybod pa gyllid sydd ar gael yn 2022 i 2023

Ewch i’n tudalennau i gael gwybod pwy sy’n gymwys, faint o arian y gall myfyrwyr ei gael a pha help ychwanegol sydd ar gael i fyfyrwyr ag anabledd.

I gael rhagor o wybodaeth, gwyliwch ein ffilmiau sy’n esbonio Cyllid Graddau Meistr Ôl-raddedig a Benthyciadau Graddau Doethur Ôl-raddedig