Cam 1: Cyn i chi wneud cais
Myfyrwyr israddedig rhan-amser, ffioedd dysgu a chostau byw

Beth sydd ar gael

Mae’r wybodaeth hon ar gyfer myfyrwyr a ddechreuodd eu cwrs ar 1 Medi 2018 neu wedi hynny. Cael gwybod beth sydd ar gael os gwnaethoch ddechrau cyn hynny.


Benthyciad Ffïoedd Dysgu

Gallech gael hyd at:

  • £2,625 os ydych mewn prifysgol neu goleg yng Nghymru neu’n astudio yn y Brifysgol Agored
  • £7,145 os ydych mewn prifysgol neu goleg cyhoeddus y tu allan i Gymru
  • £4,765 os ydych mewn prifysgol neu goleg preifat y tu allan i Gymru

Ni fydd y swm a gewch yn dibynnu ar incwm eich cartref. Er mwyn i chi gael Benthyciad Ffïoedd Dysgu, rhaid bod dwyster y cwrs yr ydych yn ei astudio’n o leiaf 25%.

Byddwn yn talu eich benthyciad yn uniongyrchol i’ch prifysgol neu’ch coleg. Rhaid i chi ad-dalu’r benthyciad, gan gynnwys llog (yn agor mewn tab newydd).

Help gyda chostau byw

Gallech hefyd gael cymysgedd o fenthyciadau a grantiau i helpu gyda’ch costau byw. Bydd y swm a gewch yn dibynnu ar incwm eich cartref a dwyster eich cwrs.

Mae’r tablau hyn yn dangos faint y gallech ei gael ar sail enghreifftiau o incwm cartref a dwyster cwrs:

2025 i 2026

Dwyster cwrs yn 25%
Incwm y cartref Benthyciad Grant
£25,000 neu lai £776 £1,500
£35,000 £1,142 £1,135
£45,000 £1,507 £769
£59,200 neu fwy £2,026 £250
Cyfanswm £2,276
Dwyster cwrs yn 50%
Incwm y cartref Benthyciad Grant
£25,000 neu lai £1,553 £3,000
£35,000 £2,283 £2,270
£45,000 £3,014 £1,539
£59,200 neu fwy £4,053 £500
Cyfanswm £4,553
Dwyster cwrs yn 75%
Incwm y cartref Benthyciad Grant
£25,000 neu lai £2,329 £4,500
£35,000 £3,425 £3,404
£45,000 £4,521 £2,308
£59,200 neu fwy £6,079 £750
Cyfanswm £6,829

2024 i 2025

Dwyster cwrs yn 25%
Incwm y cartref Benthyciad Grant
£25,000 neu lai £741 £1,500
£35,000 £1,107 £1,135
£45,000 £1,472 £769
£59,200 neu fwy £1,991 £250
Cyfanswm £2,241
Dwyster cwrs yn 50%
Incwm y cartref Benthyciad Grant
£25,000 neu lai £1,483 £3,000
£35,000 £2,213 £2,270
£45,000 £2,944 £1,539
£59,200 neu fwy £3,983 £500
Cyfanswm £4,483
Dwyster cwrs yn 75%
Incwm y cartref Benthyciad Grant
£25,000 neu lai £2,224 £4,500
£35,000 £3,320 £3,404
£45,000 £4,416 £2,308
£59,200 neu fwy £5,974 £750
Cyfanswm £6,724


Enghreifftiau’n unig yw’r ffigurau yn y tablau. Byddwch yn cael llythyr hysbysiad o hawl, a fydd yn cadarnhau faint o gymorth y mae gennych hawl i’w gael yn ystod y flwyddyn academaidd.

Bydd angen i chi roi gwybod i ni os bydd eich amgylchiadau’n newid yn ystod eich cwrs, er mwyn sicrhau eich bod yn cael y cymorth y mae gennych hawl iddo.

Byddwn yn talu eich Benthyciad Cynhaliaeth a’ch Grant Dysgu Llywodraeth Cymru i’ch cyfrif banc mewn 3 rhandaliad, ar ddechrau pob tymor fel rheol.

Rhaid i chi ad-dalu eich Benthyciad Cynhaliaeth, gan gynnwys llog, pan fyddwch wedi gorffen neu wedi gadael eich cwrs. Nid oes angen i chi ad-dalu eich grant.

Help ychwanegol

Os oes gennych anabledd neu anhwylder iechyd hirdymor

Mae’n bosibl y byddwch yn gallu gwneud cais am Lwfans Myfyrwyr Anabl.

Am ragor o wybodaeth, llwythwch i lawr canllaw Lwfansau Myfyrwyr Anabl.

Os oes gennych blant neu oedolion dibynnol

Mae’n bosibl y byddwch yn gallu gwneud cais am:

Os ydych yn cael budd-daliadau neu os ydych dros 60 oed

Mae’n bosibl y byddwch yn gallu gwneud cais am Cymorth Arbennig.