Lwfans Dysgu Rhieni
Gallwch wneud cais am Lwfans Dysgu i Rieni er mwyn talu rhai o’r costau ychwanegol a allai fod gennych os ydych yn fyfyriwr israddedig sydd â phlant.
Bydd y swm a gewch yn dibynnu ar incwm eich cartref. Nid oes yn rhaid i chi ei ad-dalu.
Beth sydd ar gael
Bydd y swm a gewch yn dibynnu ar incwm eich cartref, incwm eich dibynyddion a ph’un a oes gennych bartner neu beidio. Os ydych yn fyfyriwr rhan-amser, bydd eich Lwfans Dysgu i Rieni yn cael ei gyfrifo ar sail dwyster eich cwrs.
Blwyddyn academaidd 2022 i 2023
Gallwch gael rhwng £51 a £1,862 y flwyddyn.
Blwyddyn academaidd 2021 i 2022
Gallwch gael rhwng £50 a £1,821 y flwyddyn.
Pwy sy’n gymwys
Gallwch wneud cais am Lwfans Dysgu i Rieni:
- os oes gennych o leiaf un plentyn sy’n dibynnu arnoch yn ariannol
- os ydych yn mynychu cwrs llawn-amser neu ran-amser ac yn cael cyllid myfyrwyr israddedig sy’n dibynnu ar incwm eich cartref
Nid oes angen i chi fod yn talu am ofal plant i fod yn gymwys
Ni allwch wneud cais:
- os ydych yn astudio cwrs dysgu o bell, oni bai eich bod yn astudio cwrs dysgu o bell oherwydd bod gennych anabledd
Sut mae gwneud cais
Gallwch roi gwybod i ni yn eich cais am eich prif gyllid myfyrwyr a ydych am wneud cais am Lwfans Dysgu Rhieni. Pan fyddwch wedi cyflwyno eich cais, byddwn yn anfon y ffurflen atoch er mwyn i chi wneud cais am y Lwfans yn eich cyfrif ar-lein.
Os ydych eisoes wedi anfon eich cais am gyllid myfyrwyr atom heb lenwi’r adran ar gyfer grantiau dibynyddion, bydd angen i chi anfon ffurflen gais yn lle hynny:
Anfon tystiolaeth
Bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth i ni o’ch plant. Bydd angen i chi anfon copi o un o’r canlynol:
- tystysgrif geni ar gyfer pob plentyn
- tystysgrif brodori ar gyfer pob plentyn
- dogfen gan y Swyddfa Gartref sy’n cadarnhau enw a dyddiad geni pob plentyn
At hynny, bydd angen i chi brofi bod eich plant yn dibynnu arnoch. Bydd angen i chi anfon copi o un o’r canlynol:
- eich Hysbysiad Dyfarnu Credyd Treth diweddaraf sy’n enwi pob un o’ch plant
- eich Hysbysiad Dyfarnu Credyd Cynhwysol diweddaraf sy’n enwi pob un o’ch plant
- pob un o dudalennau eich llythyr diweddaraf ynghylch Budd-dal Plant, sy’n enwi pob un o’ch plant
I gael rhagor o wybodaeth ynglŷn ag anfon tystiolaeth atom, ewch i’n tudalen bwrpasol sy’n rhoi canllawiau am dystiolaeth.
Cael eich talu
Byddwn yn talu eich arian i’ch cyfrif banc, 3 gwaith y flwyddyn ar ddechrau pob tymor fel rheol. Yna, gallwch ei ddefnyddio i dalu eich darparwr gofal plant.
I gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â chael eich talu, ewch i’n tudalen bwrpasol sy’n rhoi canllawiau am daliadau.