Beth sydd ar gael
Mae’r wybodaeth hon ar gyfer myfyrwyr a ddechreuodd eu cwrs ar 1 Medi 2018 neu wedi hynny. Cael gwybod beth sydd ar gael os gwnaethoch ddechrau cyn hynny.
Benthyciad Ffïoedd Dysgu
Gallech gael hyd at £9,353 y flwyddyn, yn dibynnu ar faint y mae eich cwrs yn ei gostio. Nid yw’r hyn a gewch chi yn dibynnu ar incwm y cartref.
Byddwn yn talu eich benthyciad yn uniongyrchol i’ch prifysgol neu’ch coleg. Rhaid i chi ei ad-dalu, gan gynnwys llog, pan fyddwch wedi gorffen neu wedi gadael eich cwrs.
Help gyda chostau byw
Gallech hefyd gael cymysgedd o fenthyciad a grant i helpu gyda’ch costau byw. Bydd y swm a gewch yn dibynnu ar incwm eich cartref a’r man lle’r ydych yn byw ac yn astudio.
Mae’r tablau hyn yn dangos amcangyfrif o’r swm y gallech ei gael ar sail incwm eich cartref:
2025 i 2026
Incwm eich cartref | Yn byw gyda’ch rhieni | |
---|---|---|
Benthyciad | Grant | |
£18,370 ac o dan | £3,595 | £6,885 |
£25,000 | £4,550 | £5,930 |
£35,000 | £5,992 | £4,488 |
£45,000 | £7,433 | £3,047 |
£59,200 a thro | £9,480 | £1,000 |
Cyfanswm | £10,480 |
Incwm eich cartref | Os nad ydych yn byw yng nghartref eich rhieni ac os ydych yn astudio y tu allan i Lundain | |
---|---|---|
Benthyciad | Grant | |
£18,370 ac od dan | £4,245 | £8,100 |
£25,000 | £5,398 | £6,947 |
£35,000 | £7,137 | £5,208 |
£45,000 | £8,876 | £3,469 |
£59,200 a thro | £11,345 | £1,000 |
Cyfanswm | £12,345 |
Incwm eich cartref | Os nad ydych yn byw yng nghartref eich rhieni ac os ydych yn astudio yn Llundain | |
---|---|---|
Benthyciad | Grant | |
£18,370 ac o dan | £5,291 | £10,124 |
£25,000 | £6,772 | £8,643 |
£35,000 | £9,007 | £6,408 |
£45,000 | £11,241 | £4,174 |
£59,200 a thro | £14,415 | £1,000 |
Cyfanswm | £15,415 |
2024 i 2025
Incwm eich cartref | Yn byw gyda’ch rhieni | |
---|---|---|
Benthyciad | Grant | |
£18,370 ac o dan | £3,430 | £6,885 |
£25,000 | £4,385 | £5,930 |
£35,000 | £5,827 | £4,488 |
£45,000 | £7,268 | £3,047 |
£59,200 a thro | £9,315 | £1,000 |
Cyfanswm | £10,315 |
Incwm eich cartref | Os nad ydych yn byw yng nghartref eich rhieni ac os ydych yn astudio y tu allan i Lundain | |
---|---|---|
Benthyciad | Grant | |
£18,370 ac o dan | £4,050 | £8,100 |
£25,000 | £5,203 | £6,947 |
£35,000 | £6,942 | £5,208 |
£45,000 | £8,681 | £3,469 |
£59,200 a thro | £11,150 | £1,000 |
Cyfanswm | £12,150 |
Incwm eich cartref | Os nad ydych yn byw yng nghartref eich rhieni ac os ydych yn astudio yn Llundain | |
---|---|---|
Benthyciad | Grant | |
£18,370 ac o dan | £5,046 | £10,124 |
£25,000 | £6,527 | £8,643 |
£35,000 | £8,762 | £6,408 |
£45,000 | £10,966 | £4,174 |
£59,200 a thro | £14,170 | £1,000 |
Cyfanswm | £15,170 |
Enghreifftiau’n unig yw’r ffigurau yn y tablau. Byddwch yn cael llythyr hysbysiad o hawl a fydd yn dweud wrthych faint y byddwch yn ei gael yn ystod y flwyddyn academaidd.
Bydd angen i chi roi gwybod i ni os bydd eich amgylchiadau’n newid yn ystod eich cwrs i wneud yn siŵr eich bod yn cael y cymorth y mae gennych hawl iddo.
Byddwn yn talu eich Benthyciad Cynhaliaeth a’ch grant yn uniongyrchol i’ch cyfrif banc mewn 3 rhandaliad, ar ddechrau pob tymor fel rheol.
Rhaid i chi ad-dalu eich Benthyciad Cynhaliaeth, gan gynnwys llog, pan fyddwch wedi gorffen neu wedi gadael eich cwrs. Nid oes angen i chi ad-dalu eich grant.
Bydd myfyrwyr blwyddyn olaf yn cael cyfradd is o Fenthyciad a Grant Cynhaliaeth oherwydd bod tymor olaf eu cwrs yn fyrrach.
Os nad ydych mewn cysylltiad â’ch rhieni neu os ydych wedi derbyn gofal am gyfnod, mae’n bosibl na fydd angen i chi ddarparu manylion am incwm eich rhieni pan fyddwch yn gwneud cais. Ewch i'n tudalen ar gyfer Myfyrwyr Annibynnol i gael gwybod mwy.
Help ychwanegol
Os oes gennych anabledd neu anhwylder iechyd hirdymor
Mae’n bosibl y byddwch yn gallu gwneud cais am Lwfans Myfyrwyr Anabl.
Am ragor o wybodaeth, llwythwch i lawr canllaw Lwfansau Myfyrwyr Anabl
Os oes gennych blant neu oedolion dibynnol
Mae’n bosibl y byddwch yn gallu gwneud cais am:
Os ydych yn astudio dramor
Mae’n bosibl y byddwch yn gallu gwneud cais am Grant Teithio.
Os ydych yn cael budd-daliadau neu os ydych dros 60 oed
Mae’n bosibl y byddwch yn gallu gwneud cais am Cymorth Arbennig.
Os ydych yn astudio cwrs gofal iechyd, meddygaeth, deintyddiaeth neu waith cymdeithasol
Efallai eich bod yn gymwys i gael Bwrsariaeth.
Os yw eich cwrs yn hwy na 30 wythnos a 3 diwrnod
Gallwch gael ychwanegiad at eich Benthyciad Cynhaliaeth ar gyfer pob wythnos er mwyn helpu gyda’ch costau byw:
2024 i 2025 | 2025 i 2026 | |
---|---|---|
Yn byw gyda’ch rhieni | £94 | £96 |
Os nad ydych yn byw yng nghartref eich rhieni ac os ydych yn astudio y tu allan i Lundain | £142 | £144 |
Os nad ydych yn byw yng nghartref eich rhieni ac os ydych yn astudio yn Llundain | £181 | £184 |
Byddwn yn dyfarnu’r swm ychwanegol o gyllid yn awtomatig yn seiliedig ar fanylion y cwrs a ddarperir gan eich prifysgol neu goleg. Bydd eich hawl yn cynnwys y Benthyciad Cyrsiau Hir fel rhan o'ch cymorth costau byw wedi'i asesu ar sail incwm.