Cam 1: Cyn i chi wneud cais
Myfyrwyr israddedig llawn amser, ffioedd dysgu a chostau byw

Beth sydd ar gael os gwnaethoch ddechrau cyn 1 Medi 2018

Mae’r wybodaeth hon ar gyfer myfyrwyr a ddechreuodd eu cwrs ar 1 Medi 2012 neu wedi hynny, ond cyn 1 Medi 2018. Cael gwybod beth sydd ar gael os gwnaethoch ddechrau wedi hynny.

Ffïoedd dysgu

Gallech gael benthyciad a grant gwerth hyd at £9,535 y flwyddyn, yn dibynnu ar faint y mae eich cwrs yn ei gostio a ble’r ydych yn astudio. Nid yw’r hyn a gewch chi yn dibynnu ar incwm y cartref.

Byddwn yn talu eich benthyciad a’ch grant yn uniongyrchol i’ch prifysgol neu’ch coleg. Rhaid i chi ad-dalu’r benthyciad, gan gynnwys llog, pan fyddwch wedi gorffen neu wedi gadael eich cwrs ac yn ennill mwy na’r trothwy. Nid oes yn rhaid i chi ad-dalu’r grant.

Mae’r tablau hyn yn dangos uchafswm y benthyciad a’r grant y gallwch ei gael, yn dibynnu ar ble’r ydych yn astudio.

2025 to 2026

Ble’r ydych yn astudio Uchafswm y benthyciad Uchafswm y grant
Mewn prifysgol neu goleg cyhoeddus yng Nghymru £5,360 £4,175
Mewn prifysgol neu goleg cyhoeddus yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon £5,360 £4,175
Mewn prifysgol neu goleg preifat yn unrhyw le yn y DU £6,335 None

2024 i 2025

Ble’r ydych yn astudio Uchafswm y benthyciad Uchafswm y grant
Mewn prifysgol neu goleg cyhoeddus yng Nghymru £4,825 £4,175
Mewn prifysgol neu goleg cyhoeddus yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon £5,075 £4,175
Mewn prifysgol neu goleg preifat yn unrhyw le yn y DU £6,165 None

Costau byw

Gallech hefyd gael cymysgedd o fenthyciadau a grantiau i helpu gyda’ch costau byw. Mae faint a gewch yn dibynnu ar incwm eich cartref a ble rydych yn byw tra'n astudio.

Grant Dysgu Llywodraeth Cymru (GDLlC)

Uchafswm y Grant Dysgu Llywodraeth Cymru sydd ar gael yn 2025 i 2026 a 2024 i 2025 yw £5,161 y flwyddyn.

Po fwyaf o Grant Dysgu Llywodraeth Cymru fyddwch chi'n ei gael bydd yn lleihau faint o Fenthyciad Cynhaliaeth a gewch.

Benthyciad Cynhaliaeth

Mae’r tabl canlynol yn dangos y Benthyciad Cynhaliaeth sydd ar gael ar gyfer 2024 i 2025 a 2025 i 2026.

  Uchafswm y benthyciad sydd ar gael ar gyfer 2024 i 2025 Uchafswm y benthyciad sydd ar gael ar gyfer 2025 i 2026
Yn byw gartref gyda’ch rhieni £6,336 £6,438
Os nad ydych yn byw yng nghartref eich rhieni ac os ydych yn astudio y tu allan i Lundain £8,185 £8,317
Os nad ydych yn byw yng nghartref eich rhieni ac os ydych yn astudio yn Llundain £11,465 £11,650
Yn astudio dramor £9,759 £9,971

Enghreifftiau’n unig yw’r ffigurau yn y tablau. Byddwch yn cael llythyr hysbysiad o hawl a fydd yn dweud wrthych faint y byddwch yn ei gael yn ystod y flwyddyn academaidd.

Bydd angen i chi roi gwybod i ni os bydd eich amgylchiadau’n newid yn ystod eich cwrs i wneud yn siŵr eich bod yn cael y cymorth y mae gennych hawl iddo.

Byddwn yn talu eich Benthyciad Cynhaliaeth a’ch grant yn uniongyrchol i’ch cyfrif banc mewn 3 rhandaliad, ar ddechrau pob tymor fel rheol

Rhaid i chi ad-dalu eich Benthyciad Cynhaliaeth, gan gynnwys llog, pan fyddwch wedi gorffen neu wedi gadael eich cwrs.

Bydd myfyrwyr blwyddyn olaf yn cael cyfradd is o Fenthyciad a Grant Cynhaliaeth oherwydd bod tymor olaf eu cwrs yn fyrrach.

Help ychwanegol

Os oes gennych anabledd neu anhwylder iechyd hirdymor

Mae’n bosibl y byddwch yn gallu gwneud cais am Lwfans Myfyrwyr Anabl.

Am ragor o wybodaeth, llwythwch i lawr canllaw Lwfansau Myfyrwyr Anabl (Lawrlwythiad PDF 1,725KB, yn agor mewn tab newydd).

Os oes gennych blant neu oedolion dibynnol

Mae’n bosibl y byddwch yn gallu gwneud cais am:

Os ydych yn astudio dramor

Mae’n bosibl y byddwch yn gallu gwneud cais am Grant Teithio.

Os ydych yn cael budd-daliadau neu os ydych dros 60 oed

Mae’n bosibl y byddwch yn gallu gwneud cais am Cymorth Arbennig.

Os yw eich cwrs yn hwy na 30 wythnos a 3 diwrnod

Gallwch gael ychwanegiad at eich Benthyciad Cynhaliaeth ar gyfer pob wythnos er mwyn helpu gyda’ch costau byw:

  2024 i 2025 2025 i 2026
Yn byw gyda’ch rhieni £94 £96
Os nad ydych yn byw yng nghartref eich rhieni ac os ydych yn astudio y tu allan i Lundain £142 £144
Os nad ydych yn byw yng nghartref eich rhieni ac os ydych yn astudio yn Llundain £181 £184

I fod yn gymwys, rhaid eich bod yn cael cyllid myfyrwyr sy’n dibynnu ar incwm eich cartref.

Byddwn yn dyfarnu’r swm ychwanegol o gyllid yn awtomatig yn seiliedig ar fanylion y cwrs a ddarperir gan eich prifysgol neu goleg. Bydd eich hawl yn cynnwys y Benthyciad Cyrsiau Hir fel rhan o'ch cymorth costau byw wedi'i asesu ar sail incwm.