CAM 1: CYN I CHI WNEUD CAIS
Myfyrwyr israddedig llawn amser, ffioedd dysgu a chostau byw

Cymorth Arbennig

Caiff Cymorth Arbennig ei ddyfarnu i fyfyrwyr sy’n hawlio rhai budd-daliadau’n ymwneud ag incwm, a bwriedir iddo helpu gyda chostau megis llyfrau, cyfarpar cyrsiau a theithio.

Os ydych yn gymwys i gael Cymorth Arbennig, bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn diystyru eich hawl i grant hyd at uchafswm o £5,161 wrth gyfrifo unrhyw fudd-daliadau y mae gennych hawl iddynt.

Yn eich llythyr hysbysiad o hawl, bydd Cymorth Arbennig yn cael ei alw’n Grant Cymorth Arbennig.

I gael cyngor a gwybodaeth am ddim am fudd-daliadau lles a gwasanaethau eraill, cysylltwch â Cyngor ar Bopeth Cymru.

Os gwnaethoch ddechrau eich cwrs ar 1 Medi 2018 neu wedi hynny

Byddwch yn cael Benthyciad Cynhaliaeth ar gyfradd uwch, a gaiff ei ddyfarnu gyda’r Grant Cynhaliaeth. Bydd y swm y byddwch yn ei gael yn dibynnu ar incwm eich cartref ac ar ble’r ydych yn byw ac yn astudio.

Mae’n bosibl hefyd y bydd Cymorth Arbennig yn cael ei alw’n Daliad Cymorth Arbennig.

Mae’r tablau hyn yn dangos amcangyfrif o’r swm y gallech ei gael ar sail incwm eich cartref, sy’n cynnwys Cymorth Arbennig:

2024 i 2025

Incwm eich cartref Yn byw gyda’ch rhieni
  Benthyciad Grant Cyfanswm
£18,370 neu lai £4,655 £6,885 £11,540
£25,000 £4,655 £5,930 £10,585
£35,000 £5,827 £4,488 £10,315
£45,000 £7,268 £3,047 £10,315
£59,200 neu fwy £9,315 £1,000 £10,315

 

Incwm eich cartref Ddim yn byw gyda’ch rhieni ac yn astudio y tu allan i Lundain
  Benthyciad Grant Cyfanswm
£18,370 neu lai £5,575 £8,100 £13,675
£25,000 £5,575 £6,947 £12,522
£35,000 £6,942 £5,208 £12,150
£45,000 £8,681 £3,469 £12,150
£59,200 neu fwy £11,150 £1,000 £12,150

 

Incwm eich cartref Ddim yn byw gyda’ch rhieni ac yn astudio yn Llundain
  Benthyciad Grant Cyfanswm
£18,370 neu lai £7,085 £10,124 £17,209
£25,000 £7,085 £8,643 £15,728
£35,000 £8,762 £6,408 £15,170
£45,000 £10,996 £4,174 £15,170
£59,200 neu fwy £14,170 £1,000 £15,170

 

2023 i 2024

Incwm eich cartref Yn byw gyda’ch rhieni
  Benthyciad Grant Cyfanswm
£18,370 neu lai £4,475 £6,885 £11,360
£25,000 £4,475 £5,930 £10,405
£35,000 £5,462 £4,488 £9,950
£45,000 £6,903 £3,047 £9,950
£59,200 neu fwy £8,950 £1,000 £9,950

 

Incwm eich cartref Ddim yn byw gyda’ch rhieni ac yn astudio y tu allan i Lundain
  Benthyciad Grant Cyfanswm
£18,370 neu lai £5,360 £8,100 £13,460
£25,000 £5,360 £6,947 £12,307
£35,000 £6,512 £5,208 £11,720
£45,000 £8,251 £3,469 £11,720
£59,200 neu fwy £10,720 £1,000 £11,720

 

Incwm eich cartref Ddim yn byw gyda’ch rhieni ac yn astudio yn Llundain
  Benthyciad Grant Cyfanswm
£18,370 neu lai £6,815 £10,124 £16,939
£25,000 £6,815 £8,643 £15,458
£35,000 £8,227 £6,408 £14,635
£45,000 £10,461 £4,174 £14,635
£59,200 neu fwy £13,635 £1,000 £14,635

 

Enghreifftiau’n unig yw’r ffigurau sydd yn y tablau. Byddwch yn cael llythyr hysbysiad o hawl a fydd yn dweud wrthych faint y byddwch yn ei gael yn ystod y flwyddyn academaidd.

Bydd angen i chi roi gwybod i ni os bydd eich amgylchiadau’n newid yn ystod eich cwrs i wneud yn siŵr eich bod yn cael y cymorth y mae gennych hawl iddo.

Bydd yn rhaid i chi ad-dalu eich Benthyciad Cynhaliaeth, gan gynnwys llog, pan fyddwch wedi gorffen neu adael eich cwrs. Nid oes angen i chi ad-dalu eich grant.

Os byddwch yn 60 oed neu hŷn ar ddechrau eich cwrs, ni fyddwch yn gymwys i gael Benthyciad Cynhaliaeth.

Os gwnaethoch ddechrau eich cwrs ar 1 Medi 2012 neu wedi hynny ond cyn 1 Medi 2018

Ni fydd swm y cyllid y mae gennych hawl iddo’n newid os bydd Cymorth Arbennig yn cael ei ddyfarnu i chi. Dyma gyfle i chi gael gwybod beth sydd ar gael yn ystod blwyddyn academaidd 2024 i 2025 a blwyddyn academaidd 2023 i 2024. Bydd hyd at £5,161 o’ch Grant Dysgu Llywodraeth Cymru yn cael ei ystyried yn Gymorth Arbennig.

Mae’n bosibl hefyd y bydd Cymorth Arbennig yn cael ei alw’n Grant Cymorth Arbennig.

Os byddwch yn 60 oed neu hŷn ar ddechrau eich cwrs, ni fyddwch yn gymwys i gael Benthyciad Cynhaliaeth.

Pwy sy’n gymwys

Mae’n bosibl y byddwch yn gymwys i gael Cymorth Arbennig os oes unrhyw un o’r canlynol yn berthnasol i chi:

  • rydych yn rhiant sengl neu’n rhiant maeth sengl, ac mae gennych blentyn neu berson ifanc dan 20 oed sy’n cael addysg lawn-amser ar lefel sydd islaw addysg uwch
  • mae eich partner hefyd yn fyfyriwr, ac mae un ohonoch neu’r ddau ohonoch yn gyfrifol am blentyn neu berson ifanc dan 20 oed sy’n cael addysg lawn-amser ar lefel sydd islaw addysg uwch
  • mae gennych anabledd ac rydych yn gymwys i gael y Premiwm Anabledd neu’r Premiwm Anabledd Difrifol
  • rydych yn fyddar ac rydych yn gymwys i gael Lwfans Myfyrwyr Anabl
  • rydych wedi cael eich trin fel rhywun nad yw’n gallu gweithio am o leiaf 28 wythnos
  • mae gennych anabledd ac rydych yn gymwys i gael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm
  • rydych yn gymwys i gael Budd-dal Tai
  • rydych yn gymwys i gael yr elfen Tai sy’n perthyn i Gredyd Cynhwysol
  • mae gennych hawl i gael Taliad Annibyniaeth Personol
  • mae gennych hawl i gael Taliad Annibyniaeth y Lluoedd Arfog
  • mae gennych hawl i gael Lwfans Byw i’r Anabl
  • rydych yn disgwyl dychwelyd i gwrs ar ôl cymryd amser a gytunwyd allan o’r cwrs hwnnw oherwydd salwch neu gyfrifoldeb gofalu sydd wedi dod i ben erbyn hyn
  • rydych yn 60 oed neu hŷn.

Sut mae gwneud cais

Gallwch wneud cais ar-lein yn rhan o’ch prif gais am gyllid myfyrwyr.

Os byddwch yn gwneud cais am Gymorth Arbennig ar ôl i chi wneud eich prif gais am gyllid myfyrwyr, dylech anfon llythyr eglurhaol atom sy’n nodi pam yr ydych am wneud cais am Gymorth Arbennig a dylech gynnwys y dystiolaeth sy’n ofynnol.

Os byddwch yn 60 oed neu hŷn ar ddechrau eich cwrs, byddwch yn cael eich asesu ar gyfer Cymorth Arbennig a Grant Cynhaliaeth yn unig oherwydd ni fydd gennych hawl i wneud cais am Fenthyciad Cynhaliaeth.

Anfon tystiolaeth atom

Bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth i ddangos eich bod yn cael un o’r budd-daliadau a restrir uchod, er enghraifft llungopi o’ch llythyr dyfarnu Taliad Annibyniaeth Personol neu’ch llythyr dyfarnu Budd-dal Tai.

Bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth yn ystod pob un o flynyddoedd academaidd eich cwrs os byddwch am wneud cais am Gymorth Arbennig ar gyfer pob un o’r blynyddoedd hynny.

I gael rhagor o wybodaeth am anfon tystiolaeth atom, edrychwch ar ein tudalen canllaw tystiolaeth.

Cael eich talu

Byddwn yn talu eich arian i mewn i’ch cyfrif banc, 3 gwaith y flwyddyn fel rheol, ar ddechrau pob tymor.

I gael rhagor o wybodaeth am gael eich talu, edrychwch ar ein tudalen canllaw talu.