Cyhoeddwyd: 19 Gorffennaf 2021  · Tagiwyd yn:  clearing

Mae’r cyfnod clirio ar ddod!


Mae diwrnod y canlyniadau Safon Uwch rownd y gornel, felly bydd llawer o fyfyrwyr yn troi atoch chi am help. Rydym yma i’ch helpu i wneud yn siŵr bod ganddynt yr holl wybodaeth angenrheidiol i roi trefn ar eu cyllid myfyrwyr cyn gynted ag sy’n bosibl, drwy ein tudalen newydd sy’n cynnwyscanllawiau ynghylch y System Glirio.

Myfyrwyr nad ydynt wedi gwneud cais eto

Ein cyngor i fyfyrwyr nad ydynt wedi gwneud cais eto yw #PeidiwchGohirioGwneudCais, ac iddynt wneud cais yn awr (yn agor mewn tab newydd) am gyllid myfyrwyr er mwyn cael eu cyllid cyn gynted ag sy’n bosibl.

Myfyrwyr sydd wedi gwneud cais yn barod

Bydd angen i fyfyrwyr sydd wedi gwneud cais yn barod ac sydd wedi derbyn lle mewn prifysgol drwy’r System Glirio fewngofnodi a diweddaru eu cais. Mae #3ChlicIGlirio yn ddigon i baratoi ar gyfer diwrnod y canlyniadau:

  1. Mewngofnodi i’w cyfrif ar-lein (yn agor mewn tab newydd)
  2. Newid y manylion am eu prifysgol, eu coleg neu’u cwrs
  3. Eu hanfon, eistedd yn ôl ac ymlacio – fe ofalwn ni am bopeth arall

Rydym wedi creu rhai adnoddau i chi eu defnyddio gyda’ch myfyrwyr a’u rhannu ar eich gwefan neu’ch sianelau ar gyfryngau cymdeithasol.

Dylech annog myfyrwyr i fynd i’n tudalen am y System Glirio ar wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru, lle gall myfyrwyr gael gafael ar bopeth y mae angen iddynt ei wybod ynghylch #Clirio2021.

JYmunwch yn y sgwrs!

Helpwch ni i rannu’r neges ac anogwch fyfyrwyr i’n dilyn ar Facebook (yn agor mewn tab newydd) a Twitter (yn agor mewn tab newydd)

Newyddion cysylltiedig

Mae’r cyfnod clirio ar ddod!

Mae diwrnod y canlyniadau Safon Uwch rownd y gornel, felly bydd llawer o fyfyrwyr yn troi atoch chi am help.