Mae’r cyfnod clirio ar ddod!
Mae diwrnod y canlyniadau Safon Uwch rownd y gornel, felly bydd llawer o fyfyrwyr yn troi atoch chi am help. Rydym yma i’ch helpu i wneud yn siŵr bod ganddynt yr holl wybodaeth angenrheidiol i roi trefn ar eu cyllid myfyrwyr cyn gynted ag sy’n bosibl, drwy ein tudalen newydd sy’n cynnwyscanllawiau ynghylch y System Glirio.
Myfyrwyr nad ydynt wedi gwneud cais eto
Ein cyngor i fyfyrwyr nad ydynt wedi gwneud cais eto yw #PeidiwchGohirioGwneudCais, ac iddynt wneud cais yn awr am gyllid myfyrwyr er mwyn cael eu cyllid cyn gynted ag sy’n bosibl.
Myfyrwyr sydd wedi gwneud cais yn barod
Bydd angen i fyfyrwyr sydd wedi gwneud cais yn barod ac sydd wedi derbyn lle mewn prifysgol drwy’r System Glirio fewngofnodi a diweddaru eu cais. Mae #3ChlicIGlirio yn ddigon i baratoi ar gyfer diwrnod y canlyniadau:
- Mewngofnodi i’w cyfrif ar-lein
- Newid y manylion am eu prifysgol, eu coleg neu’u cwrs
- Eu hanfon, eistedd yn ôl ac ymlacio – fe ofalwn ni am bopeth arall
Rydym wedi creu rhai adnoddau i chi eu defnyddio gyda’ch myfyrwyr a’u rhannu ar eich gwefan neu’ch sianelau ar gyfryngau cymdeithasol.
Dylech annog myfyrwyr i fynd i’n tudalen am y System Glirio ar wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru, lle gall myfyrwyr gael gafael ar bopeth y mae angen iddynt ei wybod ynghylch #Clirio2021.
JYmunwch yn y sgwrs!
Helpwch ni i rannu’r neges ac anogwch fyfyrwyr i’n dilyn ar Facebook a Twitter