Clirio 2024
Paratowch ar gyfer diwrnod y canlyniadau gyda’n canllaw i System Glirio 2024.
Os nad ydych wedi gwneud cais am gyllid i fyfyrwyr eto
Os ydych yn ystyried mynd i brifysgol neu goleg eleni, mae’n bwysig eich bod yn mewngofnodi neu’n creu cyfrif ar-lein (yn agor mewn tab newydd) ac yn gwneud cais cyn gynted ag sy’n bosibl er mwyn sicrhau eich bod yn cael rhywfaint o gyllid erbyn dechrau eich cwrs. Gall gymryd 6 i 8 wythnos i ni brosesu eich cais, felly nid oes angen i chi ein ffonio i gael diweddariad tra byddwn yn gwneud hynny.
Os byddwch yn gwneud cais yn hwyr, gallai eich arian gyrraedd yn hwyr hefyd. Cael gwybod mwy am wneud cais yn hwyr.
Mae’n hawdd gwneud cais, a dim ond 30 munud y bydd yn ei gymryd. Gallwch newid hyn yn ddiweddarach os oes angen
Gwnewch gais nawr am gyllid myfyrwyr i gael cyllid cyn gynted â phosibl!
Os byddwch yn gwneud cais am y swm uwch o gyllid myfyrwyr ar sail incwm eich cartref, gwnewch yn siŵr eich bod yn gofyn i’ch rhiant/rhieni neu’ch partner ddarparu eu gwybodaeth ariannol cyn gynted ag sy’n bosibl er mwyn osgoi unrhyw oedi wrth brosesu eich cais.
Eich cyllid
Pan fyddwch wedi anfon eich cais, mae’n bosibl y byddwn yn dyfarnu Benthyciad a Grant Cynhaliaeth i chi nad ydynt yn seiliedig ar incwm eich cartref, er mwyn sicrhau bod gennych arian ar gyfer dechrau eich cwrs. Yna, byddwn yn prosesu’r manylion am incwm eich cartref ac yn addasu eich hawl i Fenthyciad a Grant Cynhaliaeth.
Yn byw gyda’ch rhieni | |
---|---|
Benthyciad | £9,315 |
Grant | £1,000 |
Cyfanswm | £10,315 |
Yn byw oddi cartref ac yn astudio y tu allan i Lundain | |
---|---|
Benthyciad | £11,150 |
Grant | £1,000 |
Cyfanswm | £12,150 |
Yn byw oddi cartref ac yn astudio yn Llundain | |
---|---|
Benthyciad | £14,170 |
Grant | £1,000 |
Cyfanswm | £15,170 |
Pan fyddwn wedi prosesu’r manylion am incwm eich cartref, ni fydd y cyfanswm a gaiff ei dalu i chi’n newid ond mae’n bosibl y bydd y gyfran sy’n Fenthyciad Cynhaliaeth a’r gyfran sy’n Grant Cynhaliaeth yn newid. Os bydd gormod o Fenthyciad Cynhaliaeth wedi’i dalu i chi, mae’n bosibl y bydd angen i chi ei ad-dalu neu y bydd yn cael ei dynnu allan o unrhyw hawl i Fenthyciad Cynhaliaeth yn y dyfodol.
Os bydd eich Grant Cynhaliaeth yn cynyddu, gallech gael taliad ychwanegol. Nid oes angen ad-dalu Grantiau.
Enghraifft
Gwnaeth David gais yn hwyr am gyllid myfyrwyr, ar ôl cael cadarnhad o le mewn prifysgol drwy’r System Glirio. Ar gyfer blwyddyn academaidd 2024 i 2025, mae gan David hawl i £10,315 oherwydd ei fod yn byw gyda’i rieni. Mae’r swm hwnnw’n cynnwys £9,315 o Fenthyciad Cynhaliaeth a £1,000 o Grant Cynhaliaeth nad ydynt yn seiliedig ar incwm y cartref.
6 wythnos ar ôl i ni gael manylion am incwm y cartref, sy’n £25,000, rydym yn addasu’r symiau y mae gan David hawl iddynt. Nid yw’r swm blynyddol yn newid, ond erbyn hyn mae ganddo hawl i £4,385 o Fenthyciad Cynhaliaeth a £5,930 o Grant Cynhaliaeth. Os bydd David wedi cael gormod o Fenthyciad Cynhaliaeth, bydd angen iddo ei ad-dalu, ond bydd yn cael taliad Grant ychwanegol.
Dyma gyfle i chi gael gwybod beth fydd eich hawl chi i Fenthyciad a Grant Cynhaliaeth ar sail incwm eich cartref.
Dylech ganiatáu 6 i 8 wythnos i ni orffen prosesu’r manylion am incwm eich cartref. Rydym yn argymell eich bod yn gwirio hynt eich cais yn rheolaidd drwy fewngofnodi i’ch cyfrif ar-lein.
Cyn gwneud cais, gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio beth sydd ar gael ar gyfer blwyddyn academaidd 2024 i 2025
Os ydych chi eisoes wedi gwneud cais am gyllid i fyfyrwyr
Os ydych wedi gwneud cais am gyllid myfyrwyr yn barod, ni fydd angen i chi wneud dim oni bai bod y manylion am eich prifysgol, eich coleg neu’ch cwrs yn newid.
Gwneud newidiadau i’ch cais
Ar gyfer myfyrwyr llawn-amser, dilynwch y camau hyn:
- Mewngofnodwch (yn agor mewn tab newydd) i’ch cyfrif ar-lein
- Clicio ar ‘Ceisiadau am gyllid myfyrwyr israddedig’
- Dewis y cais yr ydych am ei newid
- Dan y pennawd, ‘Rheoli eich cyllid myfyrwyr’, clicio ar ‘Gweld a rheoli eich ceisiadau’
- Clicio ar ‘Newid eich cais’
- Clicio ar ‘Newid eich cais’ unwaith eto
- Clicio ar ‘Prifysgol/coleg a chwrs’
- Clicio ar 'Cyflwyno' unwaith i chi nodi a chadarnhau eich newidiadau
Mae rhagor o arweiniad ar gael ynghylch sut y gall myfyrwyr rhan-amser a myfyrwyr o’r UE.
Dylech ganiatáu 6-8 wythnos i’ch cais gael ei gymeradwyo ar ôl i chi wneud unrhyw newidiadau. Rydym yn argymell eich bod yn gwirio hynt eich cais yn rheolaidd drwy fewngofnodi i’ch cyfrif ar-lein.
Ar ôl i chi ddiweddaru eich cais
Byddwn yn adolygu eich cais ac yn cysylltu â chi i roi gwybod a fydd unrhyw newid i’r cyllid myfyrwyr a gaiff ei dalu i chi.
Os yw eich cais yn seiliedig ar incwm eich cartref, dylech wneud yn siŵr bod eich rhieni neu’ch partner yn rhoi manylion eu hincwm i ni cyn gynted ag sy’n bosibl. Cofiwch hefyd y gallech gael mwy o gyllid myfyrwyr os yw incwm eich cartref wedi gostwng.
Ydych chi’n rhiant neu’n bartner i rywun sy’n gwneud cais am gyllid myfyrwyr?
Bydd angen i chi gefnogi cais y sawl dan sylw drwy ddarparu manylion eich incwm er mwyn iddo/iddi gael cymaint o gyllid myfyrwyr ag sy’n bosibl. Ewch i’n tudalen i rieni a phartneriaid i gael rhagor o wybodaeth.