Cyhoeddwyd: 27 Mawrth 2023 · Diweddarwyd ddiwethaf: 27 Mawrth 2023  · Tagiwyd yn:  2023 i 2024

Mae’n bryd i fyfyrwyr wneud cais am gyllid myfyrwyr!


Mae’r holl geisiadau cyllid myfyrwyr israddedig amser llawn ar gyfer y flwyddyn academaidd 2023 i 2024 nawr ar agor! Y ffordd hawsaf i fyfyrwyr newydd wneud cais yw ar-lein drwy wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru. Dim ond tua 30 munud y dylai gymryd.

Cofiwch ddweud wrth fyfyrwyr sy’n parhau y bydd angen iddynt ailymgeisio am gyllid myfyrwyr, hefyd trwy eu cyfrif ar-lein.

Dylech annog myfyrwyr i wneud cais cyn y dyddiad cau i wneud yn siŵr bod eu cyllid yn barod ar gyfer dechrau eu cwrs:

- Myfyrwyr newydd – 26 Mai

- Myfyrwyr sy'n dychwelyd – 30 Mehefin

Gall myfyrwyr wneud cais am gyllid hyd yn oed os nad oes ganddynt le wedi’i gadarnhau ar gwrs eto. Dylent roi manylion eu cwrs dewisol i ni a'i newid yn ddiweddarach os bydd angen.

Myfyrwyr sy'n gymwys i gael Benthyciad Ffioedd Dysgu UE yn unig, dylech wneud cais gan ddefnyddio’r ffurflen gais Myfyriwr o’r UE.

Disgwylir i geisiadau israddedig rhan-amser agor o fis Mehefin 2023.

Disgwylir i geisiadau ôl-raddedig agor o fis Mai 2023.

Pa gyllid sydd ar gael yn 2023 i 2024?

Rhannwch ein tudalen ymgyrch 2023 i 2024 a ffilm ‘Darganfod cyllid myfyrwyr’ i roi gwybod i fyfyrwyr pa gyllid y gallant wneud cais amdano.

Helpwch ni i sicrhau bod ein negeseuon ar Facebook a Twitter yn cyrraedd mwy o fyfyrwyr drwy rannu ein negeseuon!

Facebook - @SFWales
Twitter - @SF_Wales
YouTube /SFWFilm

Newyddion cysylltiedig

2023 i 2024: Mae’r cyfnod i fyfyrwyr rhan-amser wneud cais ar agor yn awr!

Dylech annog eich myfyrwyr i wneud cais cyn gynted ag sy’n bosibl er mwyn gwneud yn siŵr eu bod yn cael eu cyllid myfyrwyr mewn pryd ar gyfer dechrau eu cwrs.

Darllen yr erthygl hon

2023 i 2024: Ceisiadau israddedig rhan-amser yn agor yn fuan!

Disgwylir i geisiadau israddedig rhan-amser agor o fis Mehefin 2023.

Darllen yr erthygl hon

2023 to 2024: Mae’n bryd i fyfyrwyr wneud cais am gyllid myfyrwyr!

2023 to 2024: Mae’n bryd i fyfyrwyr wneud cais am gyllid myfyrwyr!

Darllen yr erthygl hon