Mae’n bryd i fyfyrwyr wneud cais am gyllid myfyrwyr!


Mae’r holl geisiadau cyllid myfyrwyr israddedig amser llawn ar gyfer y flwyddyn academaidd 2023 i 2024 nawr ar agor! Y ffordd hawsaf i fyfyrwyr newydd wneud cais yw ar-lein drwy wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru. Dim ond tua 30 munud y dylai gymryd.

Cofiwch ddweud wrth fyfyrwyr sy’n parhau y bydd angen iddynt ailymgeisio am gyllid myfyrwyr, hefyd trwy eu cyfrif ar-lein.

Dylech annog myfyrwyr i wneud cais cyn y dyddiad cau i wneud yn siŵr bod eu cyllid yn barod ar gyfer dechrau eu cwrs:

- Myfyrwyr newydd – 26 Mai

- Myfyrwyr sy'n dychwelyd – 30 Mehefin

Gall myfyrwyr wneud cais am gyllid hyd yn oed os nad oes ganddynt le wedi’i gadarnhau ar gwrs eto. Dylent roi manylion eu cwrs dewisol i ni a'i newid yn ddiweddarach os bydd angen.

Myfyrwyr sy'n gymwys i gael Benthyciad Ffioedd Dysgu UE yn unig, dylech wneud cais gan ddefnyddio’r ffurflen gais Myfyriwr o’r UE.

Disgwylir i geisiadau israddedig rhan-amser agor o fis Mehefin 2023.

Disgwylir i geisiadau ôl-raddedig agor o fis Mai 2023.

Pa gyllid sydd ar gael yn 2023 i 2024?

Rhannwch ein tudalen ymgyrch 2023 i 2024 a ffilm ‘Darganfod cyllid myfyrwyr’ (yn agor mewn tab newydd) i roi gwybod i fyfyrwyr pa gyllid y gallant wneud cais amdano.

Helpwch ni i sicrhau bod ein negeseuon ar Facebook a Twitter yn cyrraedd mwy o fyfyrwyr drwy rannu ein negeseuon!

Facebook - @SFWales (yn agor mewn tab newydd)
Twitter - @SF_Wales (yn agor mewn tab newydd)
YouTube /SFWFilm (yn agor mewn tab newydd)