Cyhoeddwyd: 28 Chwefror 2022 · Diweddarwyd ddiwethaf: 28 Chwefror 2022  · Tagiwyd yn:  2022 i 2023

Mae’n bryd i fyfyrwyr wneud cais am gyllid myfyrwyr!


Mae’r cyfnod i fyfyrwyr israddedig llawn-amser wneud cais am gyllid myfyrwyr ar gyfer blwyddyn academaidd 2022 i 2023 wedi agor erbyn hyn! Y ffordd hawsaf i fyfyrwyr newydd wneud cais yw ar-lein drwy wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru. Ni ddylai gymryd mwy na thua 30 munud.

Cofiwch ddweud wrth fyfyrwyr a fydd yn parhau â’u hastudiaethau y bydd angen iddynt wneud cais o’r newydd am gyllid myfyrwyr, drwy eu cyfrif ar-lein.

Dylech annog myfyrwyr i wneud cais cyn y dyddiad cau er mwyn sicrhau bod eu cyllid yn barod ar gyfer dechrau eu cwrs:

  • Myfyrwyr newydd – 27 Mai 2022
  • Myfyrwyr sy’n dychwelyd – 17 Mehefin 2022

Gall myfyrwyr wneud cais am gyllid hyd yn oed os nad oes lle wedi’i gadarnhau ar eu cyfer eto ar gwrs. Dylent roi manylion y cwrs y maent yn ei ffafrio i ni a’u newid yn nes ymlaen os oes angen.

Os ydych yn gymwys i gael Benthyciad Ffïoedd Dysgu yn unig, dylech wneud cais gan ddefnyddio’r ffurflen gais ar gyfer myfyrwyr o’r UE.

Bydd y cyfnod i fyfyrwyr ôl-raddedig a myfyrwyr israddedig rhan-amser wneud cais am gyllid myfyrwyr yn agor yn yr haf.

Pa gyllid sydd ar gael yn 2022 i 2023?

Rhannwch ein tudalen ar gyfer ymgyrch 2022 i 2023 a’n ffilm ‘Darganfod cyllid myfyrwyr’ er mwyn rhoi gwybod i fyfyrwyr pa gyllid y gallant wneud cais amdano.

Helpwch ni i sicrhau bod ein negeseuon ar Facebook a Twitter yn cyrraedd mwy o fyfyrwyr drwy rannu ein negeseuon!

Facebook - @SFWales
Twitter - @SF_Wales
YouTube /SFWFilm

Newyddion cysylltiedig

Gwybodaeth ac adnoddau newydd ar gyfer myfyrwyr sydd wedi ymddieithrio a myfyrwyr sy’n gadael gofal

Diweddariadau pwysig i fyfyrwyr sy'n gymwys i gael cyllid i fyfyrwyr fel rhai sydd wedi ymddieithrio oddi wrth eu rhieni neu sy'n gadael gofal.

Helpu myfyrwyr i gael eu taliad cyllid myfyriwr cyntaf

Mae'n bwysig eich bod yn helpu myfyrwyr i wybod beth i'w wneud i gael eu taliad cyllid myfyriwr cyntaf mewn pryd.

Mae’r dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am gyllid myfyrwyr israddedig llawn-amser wedi pasio

Mae’n bwysig atgoffa myfyrwyr nad yw’n rhy hwyr iddynt wneud cais a chael rhywfaint o arian mewn pryd ar gyfer dechrau’r tymor.