Cyhoeddwyd: 07 Ebrill 2022  · Tagiwyd yn:  2022 i 2023 postgraddedig  a  israddedig rhan-amser

2022 to 2023: Y cyfnod i fyfyrwyr israddedig rhan-amser a myfyrwyr ôl-raddedig wneud cais yn agor yn fuan!


Mae disgwyl y bydd y cyfnod i wneud ceisiadau am gyllid myfyrwyr israddedig rhan-amser a chyllid myfyrwyr ôl-raddedig yn agor ganol mis Mai.

Nawr yw’r amser i ddechrau paratoi. Gallwch weld beth sydd ar gael a chael llawer o wybodaeth bwysig ar:

www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk/cyllid-ol-raddedig

www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk/cyllid-israddedig/israddedig-rhan-amser

Gallwch hefyd ymuno â’n rhestr bostio yn awr er mwyn bod ymhlith y cyntaf i gael gwybod pryd y bydd y cyfnod i wneud ceisiadau yn agor!

Ymunwch â’n rhestr bostio os ydych yn bwriadu astudio cwrs israddedig rhan-amser neu gwrs ôl-raddedig yn ystod blwyddyn academaidd 2022 i 2023.

Sicrhewch eich bod yn gwneud cais yn brydlon fel bod eich cyllid yn barod ar gyfer dechrau eich cwrs.

Newyddion cysylltiedig

Mae’r cyfnod i fyfyrwyr israddedig rhan-amser wneud cais ar gyfer 2022 i 2023 ar agor yn awr!

Y ffordd hawsaf o wneud cais yw ar-lein. Dim ond 30 munud y mae’n ei gymryd i wneud cais, a llai na hynny os ydych wedi gwneud cais o’r blaen.

2022 i 2023 Ceisiadau rhan amser ac Ôl-raddedig

Mae disgwyl y bydd y cyfnod i wneud ceisiadau am gyllid myfyrwyr israddedig rhan-amser a chyllid myfyrwyr ôl-raddedig yn agor ganol mis Mai.