Mae Lwfans Dysgu i Rieni (PLA) yn gymorth ychwanegol i dalu costau sy'n ymwneud â chyrsiau fel llyfrau, deunyddiau cwrs a theithio, os oes gennych blant sy’n ddibynnol arnoch.
Uchafswm y gallwch ei gael ar gyfer Lwfans Rhieni sy’n Dysgu yw £1,324.50 y flwyddyn.
Medrwch ond geisio am PLA os oes gennych un neu fwy o blant sy’n dibynnu’n ariannol arnoch, difater eu hoedran.
Mae'r swm sydd ar gael i chi yn dibynnu ar ddwyster eich cwrs ac incwm cartref
Byddwn yn gofyn i chi am wybodaeth yma pan fyddwch chi’n ceisio.
Dwysedd Cwrs | Uchafswm Lwfans Rhieni sy’n Dysgu sydd ar gael |
---|---|
50%-59% |
£883 |
60%-74% |
£1,059.60 |
75% neu fwy |
£1,324.50 |
Caiff Lwfans Rhieni sy’n Dysgu ei dalu’n uniongyrchol i’ch cyfrif banc ar ddechrau pob tymor. Bydd hyn ond yn digwydd wedi i chi gofrestru ar eich cwrs a bod eich presenoldeb wedi ei gadarnhau gan eich prifysgol neu goleg.
Cyn i’ch taliad cyntaf ei wneud, rhaid i chi sicrhau bod eich prifysgol neu goleg yn cwblhau adran 3 o ffurflen Grantiau Rhan-Amser i ddibynyddion (PTGFD) pan fyddwch yn dechrau. Dychwelwch hon a chaiff eich taliad cyntaf ei wneud wedi i’r ffurflen gael ei phrosesu.
Os ydych yn astudio ar gwrs dysgu o bell, ni fyddwch yn gymwys i gael PLA.
Fodd bynnag, os yw’r cwrs yn un y byddai rhywun yn ei fynychu’n bersonol fel arfer ond nad ydych chi’n gallu gwneud hynny o ganlyniad i anabledd neu anhwylder iechyd hirdymor, gallwch wneud cais am PLA.
Rhaid i chi fod yn astudio ar ddwyster cwrs o leiaf 50% i fod yn gymwys ar gyfer PLA.
Nid oes angen talu PLA yn ôl oni bai eich bod chi'n gadael eich cwrs neu os oes newid yn eich amgylchiadau sy'n arwain at or-daliad
Os yr ydych yn ceisio am CCG neu PLA bydd angen i chi anfon y dystiolaeth canlynol:
Anfonwch gopi o un o’r canlynol:
Anfonwch gopi o un o’r canlynol:
Caiff yr un dystiolaeth yma ei defnyddio os yr ydych yn ceisio am Grant Gofal Plant
Bydd angen i chi lenwi ffurflen gais papur er mwyn ymgeisio. Gallwch lawrlwytho hon o’n teclyn dod o hyd i Ffurflenni.