Cam 1: Cyn i chi wneud cais
Myfyrwyr israddedig rhan-amser Cymreig

Grant Gofal Plant

Gallwch wneud cais am Grant Gofal Plant er mwyn eich helpu i dalu eich costau gofal plant os ydych yn fyfyriwr israddedig sydd â phlant.

Bydd y swm a gewch yn dibynnu ar incwm eich cartref. Nid oes rhaid i chi ei dalu'n ôl.

Beth sydd ar gael

Bydd y swm a gewch yn dibynnu ar incwm eich cartref, faint o blant dibynnol sydd gennych a beth yw eich costau gofal plant.

Bydd yn rhaid i chi dalu unrhyw gostau gofal plant sy’n weddill eich hun. Os ydych yn fyfyriwr rhan-amser, byddwch yn cael eich asesu ar gyfer swm llai o CCG ar sail dwyster eich astudiaeth.

Blwyddyn academaidd 2023 i 2024

Gallech gael 85% o’ch costau gofal plant hyd at uchafswm o:

  • £187 yr wythnos ar gyfer 1 plentyn dibynnol
  • £321 yr wythnos ar gyfer 2 neu fwy o blant dibynnol

Os nad oes gennych ddarparwr gofal plant ar yr adeg y byddwch yn gwneud cais, gallwch gael Grant Gofal Plant o hyd, ond caiff hyn ei gapio ar £144 yr wythnos neu 85% o’r costau gwirioneddol, pa un bynnag yw’r isaf. Pan fyddwch wedi darparu manylion eich darparwr gofal plant, byddwn yn ailgyfrifo eich cyllid ar gyfer y swm uwch.

Os ydych yn rhiant i blentyn sydd rhwng 3 a 4 oed, gallech fod yn gymwys i gael mwy o gymorth gan Lywodraeth Cymru ar gyfer gofal plant, dan y Cynnig Gofal Plant sydd wedi’i ehangu yn ddiweddar er mwyn cynnwys rhieni sy’n fyfyrwyr.

Blwyddyn academaidd 2022 i 2023

Gallech gael 85% o’ch costau gofal plant hyd at uchafswm o:

  • £184 yr wythnos ar gyfer 1 plentyn dibynnol
  • £315 yr wythnos ar gyfer 2 neu fwy o blant dibynnol

Os nad oes gennych ddarparwr gofal plant ar yr adeg y byddwch yn gwneud cais, gallwch gael Grant Gofal Plant o hyd, ond caiff hyn ei gapio ar £141 yr wythnos neu 85% o’r costau gwirioneddol, pa un bynnag yw’r isaf. Pan fyddwch wedi darparu manylion eich darparwr gofal plant, byddwn yn ailgyfrifo eich cyllid ar gyfer y swm uwch.

Os ydych yn rhiant i blentyn sydd rhwng 3 a 4 oed, gallech fod yn gymwys i gael mwy o gymorth gan Lywodraeth Cymru ar gyfer gofal plant, dan y Cynnig Gofal Plant sydd wedi’i ehangu yn ddiweddar er mwyn cynnwys rhieni sy’n fyfyrwyr.

Pwy sy’n gymwys

Gallwch wneud cais am Grant Gofal Plant:

  • os oes gennych o leiaf un plentyn dan 15 oed sy’n dibynnu arnoch yn ariannol, neu dan 17 oed os oes ganddo anghenion addysgol arbennig
  • os ydych yn defnyddio darparwr gofal plant sydd wedi cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru
  • yn mynychu cwrs amser llawn neu ran-amser (gan gynnwys cwrs dysgu o bell) ac yn cael cyllid myfyriwr israddedig sy'n dibynnu ar incwm eich cartref

Ni allwch wneud cais:

  • os ydych yn hawlio elfen gofal plant Credyd Cynhwysol neu Gredyd Treth Gwaith
  • os ydych yn cael gofal plant di-dreth gan Gyllid a Thollau EM
  • os ydych yn talu perthynas i ofalu am eich plentyn chi’n unig
  • os ydych chi neu’ch partner yn cael cyllid gan y GIG.

Sut mae gwneud cais

Dylech wneud cais ar ôl i chi wneud cais am eich prif gyllid myfyrwyr, drwy anfon ffurflen gais er mwyn amcangyfrif eich costau gofal plant:

Os gwnaethoch nodi, wrth wneud cais am eich prif gyllid myfyrwyr, eich bod am wneud cais am Grant Gofal Plant byddwn yn anfon y ffurflen atoch yn awtomatig.

Anfon tystiolaeth

Dim ond ym mlwyddyn gyntaf eich cwrs y mae angen i chi roi tystiolaeth o'ch plant i ni. Dylech lanlwytho copi o un o'r canlynol:

  • tystysgrif geni ar gyfer pob plentyn
  • tystysgrif brodori ar gyfer pob plentyn
  • dogfen gan y Swyddfa Gartref sy’n cadarnhau enw a dyddiad geni pob plentyn

Mae angen i chi hefyd brofi bod eich plant yn ddibynnol arnoch chi. Mae angen ichi gyflwyno copi o un o’r canlynol:

  • holl dudalennau eich Hysbysiad o Ddyfarniad Credydau Treth diweddaraf yn eich enwi chi a’ch holl blant
  • holl dudalennau eich Hysbysiad o Ddyfarniad Credyd Cynhwysol diweddaraf yn eich enwi chi a nifer y plant ar eich cais
  • holl dudalennau eich llythyr Budd-dal Plant diweddaraf yn enwi eich holl blant (gall hyn fod yn eich enw chi neu eich partner)

Gallwn dderbyn lawrlwythiadau neu sgrinluniau o’ch datganiad Credyd Cynhwysol neu lythyr Budd-dal Plant o’ch cyfrif ar-lein os nad oes gennych gopi papur. Rhaid i bob tudalen fod yn glir ac yn bresennol.

Dylech lanlwytho'ch holl ddogfennau ar yr un pryd er mwyn osgoi unrhyw oedi gyda'ch cais.

I gael rhagor o wybodaeth ynglŷn ag anfon tystiolaeth atom, ewch i’n tudalen bwrpasol sy’n rhoi canllawiau am dystiolaeth.

Cadarnhau eich costau

Rhaid i chi a’ch darparwr gofal plant gadarnhau eich costau gofal plant 3 gwaith y flwyddyn. Byddwn yn anfon ffurflen atoch bob tro y bydd angen i chi wneud hynny:

Os oes gormod o arian wedi’i dalu i chi, byddwn yn tynnu’r swm sy’n ormod allan o’ch taliad nesaf. Dyma gyfle i chi gael gwybod mwy am beth fydd yn digwydd pan fydd gormod o Grant Gofal Plant wedi’i dalu i chi.

Os nad oes digon o arian wedi’i dalu i chi, byddwn yn talu unrhyw swm sy’n ddyledus i chi cyn gynted ag sy’n bosibl.

Os na fyddwch yn cadarnhau eich costau, bydd eich Grant Gofal Plant yn cael ei atal a bydd yn rhaid i chi ad-dalu unrhyw arian sydd wedi’i dalu i chi’n barod.

Cael eich talu

Byddwn yn talu eich arian i’ch cyfrif banc, 3 gwaith y flwyddyn ar ddechrau pob tymor fel rheol. Yna, gallwch ei ddefnyddio i dalu eich darparwr gofal plant.

I gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â chael eich talu, ewch i’n tudalen bwrpasol sy’n rhoi canllawiau am daliadau.