Mae Lwfansau Myfyrwyr Anabl (DSAs) ar gael os oes gennych anabledd, cyflwr iechyd hirdymor, cyflwr iechyd meddwl, anhwylderau sbectrwm awtistiaeth (ASD) neu anhawster dysgu penodol. Mae DSAs yn grantiau i helpu i dalu'r costau ychwanegol hanfodol sydd gennych o ganlyniad uniongyrchol i'ch anabledd. Rhaid i chi fodloni'r diffiniad o anabledd o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.
Gallwch dderbyn DSAs os:
Nid yw swm y Lwfansau Myfyrwyr Anabl (DSA) yr ydych yn eu cael ddim yn dibynnu ar incwm eich cartref.
Mae ystod o gymorth ar gael:
Lwfans |
Uchafswm ar gael yn 2020/21 |
Cynorthwy-ydd anfeddygol |
£22,472 flwyddyn |
Cyfarpar arbenigol |
£5,657 ar gyfer y cwrs cyfan |
Lwfans cyffredinol |
£1,894 flwyddyn |
Teithio yn ymwneud ag anabledd |
Gwariant rhesymol ar gostau teithio ychwanegol a achoswyd o ganlyniad i gyflwr y myfyriwr. |
Cam 1 – Gwneud cais am Lwfansau Myfyrwyr Anabl
Os ydych yn fyfyriwr llawn-amser sy’n gwneud cais am gyllid arall i fyfyrwyr, megis Benthyciad Ffïoedd Dysgu, gallwch wneud cais am Lwfansau Myfyrwyr Anabl o’ch cyfrif ar-lein ar ôl i chi gyflwyno eich prif gais am gyllid myfyrwyr.
Ar ôl i chi wneud cais am Lwfansau Myfyrwyr Anabl, byddwch yn cael gwybod pa dystiolaeth y bydd angen i chi ei hanfon atom i ategu eich cais. Gallwch anfon copi digidol o’ch tystiolaeth drwy eich cyfrif ar-lein.
Os ydych yn gwneud cais am Lwfansau Myfyrwyr Anabl yn unig, ac nad ydych yn gwneud cais am unrhyw fath arall o gyllid myfyrwyr, bydd angen i chi lenwi ffurflen gais ar bapur.
Cam 2– Cyllid Myfyrwyr Cymru (SFW) fydd yn asesu eich cais
Os yr ydych yn gymwys ar gyfer derbyn DSAs byddwn yn anfon llythyr atoch yn eich hysbysu. Yna fe fydd yn rhaid i chi drefnu asesiad anghenion.
Cam 3 – Dylech fynychu asesiad anghenion.
Wedi’r asesiad anghenion byddwch yn derbyn adroddiad yn amlinellu’r cyfarpar fydd angen arnoch, faint y bydd yn ei gostio a lle i ddod o hyd iddo.
Cam 4 – Cyllid Myfyriwr Cymru fydd yn anfon llythyr atoch i ddweud pa DSAs y gallwch eu derbyn.
Yr adeg yma y byddwch yn derbyn llythyr oddi wrth SFC yn eich cynghori os all y DSA dalu am unrhyw gyfarpar arbennigol a chefnogaeth arall a argymhellir yn eich adroddiad asesiad anghenion. Fe fyddwn hefyd yn rhoi cyfarwyddiadau i chi am archebu cyfarpar neu drefnu cefnogaeth arall.
Am ragor o wybodaeth, llwythwch i lawr canllaw Lwfansau Myfyrwyr Anabl:
Os yr ydych wedi cwblhau, neu ynghanol cwblhau eich cais am gyllid myfyriwr ac rydych hefyd am wneud cais ar gyfer Lwfansau Myfyrwyr Anabl, dylech gwblhau’r fersiwn cwteuedig o’r Ffurflen DSA1.
Os yr ydych ond yn gwneud cais am Lwfansau Myfyrwyr Anabl dylech gwblhau Ffurflen DSA1 yn llawn.
Mae’r nodiadau canllaw yma yn darparu gwybodaeth ychwanegol sydd angen arnoch i’ch helpu i gwblhau Ffurflen Gais DSA1.
Os yr ydych am wneud cais am dreuliau yr ydych eisoes wedi eu talu, llenwch ffurflen ‘Ffurflen Gais am Ad-daliad drwy gostau Lwfansau Myfyrwyr Anabl'.
Caiff DSAs eu talu naill ai yn uniongyrchol i’ch cyfrif neu i unrhyw ddarparwyr cyfarpar neu wasanaeth.
Cymorth ychwanegol