Gallech gael Benthyciad Ffïoedd Dysgu gwerth hyd at £9,250 os ydych yn astudio mewn prifysgol neu goleg cymwys yn y DU.
Nid oes cyfyngiadau ar y ffïoedd y gall prifysgolion neu golegau preifat yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, neu ddarparwyr cofrestredig cymeradwy yn Lloegr, eu codi.
Os nad ydych yn siŵr a yw cwrs yn gymwys ar gyfer cyllid myfyrwyr, gofynnwch i’r brifysgol neu’r coleg.
Uchafswm y Benthyciad Ffïoedd Dysgu sydd ar gael |
|
Astudio mewn prifysgol cyhoeddus neu goleg yng Nghymru |
£9,000 |
Yn astudio mewn prifysgol neu goleg cyhoeddus yn yr Alban neu Ogledd Iwerddon |
£9,250 |
Yn astudio mewn prifysgol neu goleg preifat yng Nghymru, yr Alban neu Ogledd Iwerddon |
£6,165 |
Yn astudio gyda darparwr cofrestredig cymeradwy yn Lloegr |
£9,250 |
Caiff llog ei godi ar eich Benthyciad Ffi Dysgu o’r diwrnod cyntaf bydd yr arian yn cael ei dalu i’ch prifysgol neu goleg hyd nes bod y benthyciad yn cael ei ad-dalu yn llawn neu ei ganslo.
Gallwch ddarganfod pa log fydd yn cael ei godi arnoch drwy fynd i GOV.UK
Caiff y Benthyciad Ffi Dysgu ei dalu’n uniongyrchol i’ch prifysgol neu goleg.
Nid yw’r Benthyciad Ffi Dysgu wedi ei asesu ar incwm, felly golyga nad yw eich hawl yn dibynnu ar incwm eich cartef. Os yr ydych yn tynnu’n ôl o’ch prifysgol neu goleg wedi i chi fynychu ar ddiwrnod cyntaf y tymor, efallai y byddwch yn atebol i dalu peth o’r ffioedd. Os oes angen i chi drafod hyn ymhellach, cysylltwch gyda’ch prifysgol neu goleg.
Os yr ydych wedi gwasanaethu am bedair blynedd neu’n fwy yn y lluoedd arfog ac yn gadael, efallai y byddwch yn gymwys am gefnogaeth ffi o dan gynllun Enhanced Learning Credit. Am ragor o wybodaeth ymwelwch â www.enhancedlearningcredits.com
Os yr ydych eisoes wedi ceisio am gyllid myfyriwr, y ffordd gyflymaf a’r hawsaf i newid swm y Benthyciad Ffi Dysgu yr ydych am ei fenthyg yw i fewngofnodi i’ch cyfrif ar-lein Ar yn ail, gallwch gwblhau a dychwelyd y ffurflen yma.