Tystiolaeth y bydd arnoch ei hangen
Profi pwy ydych chi
Os oes gennych basbort dilys ar gyfer y DU
Gallwch gadarnhau pwy ydych chi drwy nodi manylion eich pasbort dilys ar gyfer y DU pan fyddwch yn gwneud cais. Nid oes angen i chi anfon eich pasbort gwreiddiol atom.
Gallwch hefyd anfon ffurflen manylion pasbort ar gyfer y DU:
- Ffurflen manylion pasbort ar gyfer y DU - 2024 i 2025 (Lawrlwythiad PDF 73KB, yn agor mewn tab newydd)
- Ffurflen manylion pasbort ar gyfer y DU – 2023 i 2024 (Lawrlwythiad PDF 73KB, yn agor mewn tab newydd)
Os nad oes gennych basbort dilys ar gyfer y DU
Os nad oes gennych basport ar gyfer y DU (neu os yw wedi dod i ben) gallwch naill ai:
- lanlwytho copi o’ch tystysgrif geni neu fabwysiadu i’ch cyfrif cyllid myfyrwyr (yn agor mewn tab newydd) neu
- anfon copi o’ch tystysgrif geni neu fabwysiadu drwy’r post i Cyllid Myfyrwyr Cymru
Y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE
Os ydych wedi cael statws dan y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE, bydd angen i chi roi cod rhannu i ni i brofi eich statws o ran mewnfudo a phrofi pwy ydych chi (yn agor mewn tab newydd). Nid oes angen i chi anfon pasbort atom.
Os nad ydych wedi cael statws dan y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE, dylech anfon eich pasbort neu’ch cerdyn adnabod gwreiddiol atom, nad yw’n basbort neu’n gerdyn adnabod ar gyfer y DU. Gwnewch yn siŵr eich bod yn anfon llythyr eglurhaol hefyd sy’n cynnwys eich enw llawn, eich cyfeiriad a’ch Cyfeirnod Cwsmer os oes gennych un.
Bydd unrhyw ddogfennau adnabod gwreiddiol y byddwch yn eu hanfon yn cael eu dychwelyd atoch cyn pen hyd at 8 wythnos ar ôl i ni eu cael.
Dylech ganiatáu 8 wythnos i ni ddychwelyd eich dogfennau, pan fyddwch yn trefnu unrhyw deithiau yn ystod y cyfnod hwnnw. Ni allwn warantu y bydd y dogfennau’n cael eu dychwelyd yn gynt. Os ydych wedi trefnu teithiau ac os byddwch yn teithio yn ystod y cyfnod dan sylw, peidiwch ag anfon eich pasbort na’ch cerdyn adnabod atom. Anfonwch eich dogfennau ar ôl i chi ddychwelyd.