Tystiolaeth y bydd arnoch ei hangen
Profi pwy ydych chi
Os oes gennych basbort dilys ar gyfer y DU
Gallwch gadarnhau pwy ydych chi drwy nodi manylion eich pasbort dilys ar gyfer y DU pan fyddwch yn gwneud cais. Nid oes angen i chi anfon eich pasbort gwreiddiol atom.
Gallwch hefyd anfon ffurflen manylion pasbort ar gyfer y DU:
- Ffurflen manylion pasbort ar gyfer y DU - 2024 i 2025 (Lawrlwythiad PDF 73KB, yn agor mewn tab newydd)
- Ffurflen manylion pasbort ar gyfer y DU – 2023 i 2024 (Lawrlwythiad PDF 73KB, yn agor mewn tab newydd)
Os nad oes gennych basbort dilys ar gyfer y DU
Os nad oes gennych basport ar gyfer y DU (neu os yw wedi dod i ben) gallwch naill ai:
- lanlwytho copi o’ch tystysgrif geni neu fabwysiadu i’ch cyfrif cyllid myfyrwyr (yn agor mewn tab newydd) neu
- anfon copi o’ch tystysgrif geni neu fabwysiadu drwy’r post i Cyllid Myfyrwyr Cymru
Y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE neu wladolyn arall nad yw’n dod o’r DU
Gallwch roi manylion i ni o'ch dogfen hunaniaeth ddilys pan fyddwch yn gwneud cais. Gallwch roi manylion i ni o un o'r canlynol:
- Pasbort
- Cerdyn adnabod cenedlaethol
- Cerdyn preswylio biometrig
- Trwydded breswylio fiometrig
Os ydych yn ddinesydd Gwyddelig, bydd angen i chi anfon eich pasbort dilys gwreiddiol y DU, Gweriniaeth Iwerddon neu'r UE.
Os ydych yn gwneud cais am gyllid i fyfyrwyr fel aelod o deulu:
- dinesydd y DU
- dinesydd Gwyddelig
- person o Ogledd Iwerddon
mae angen i chi anfon pasbort dilys gwreiddiol aelod o'ch teulu neu dystysgrif geni neu fabwysiadu atom.
Mae angen i chi hefyd anfon prawf o'ch perthynas ag aelod o'ch teulu atom. Gallwch anfon un o'r canlynol atom:
- tystysgrif geni neu fabwysiadu
- tystysgrif priodas