Cam 2: Gwneud cais
Cyrsiau Graddau Meistr ôl-raddedig
Sut mae gwneud cais a phryd
Sut mae gwneud cais
Gallwch wneud cais ar-lein. Efallai fod gennych gyfrif cyllid myfyrwyr yn barod os gwnaethoch astudio’n flaenorol. Fel arall, bydd angen i chi greu cyfrif er mwyn gwneud cais.
Pryd mae gwneud cais
Mae’r cyfnod I wneud cais am gyllid gradd Meistr ól-raddedig ar gyfer 2022 i 2023 ar agor yn awr!
Gallwch wneud cais yn awr ar gyfer:
- 2022 i 2023
- 2021 i 2022
Rhaid i chi wneud cais cyn pen 9 mis ar ôl dechrau blwyddyn academaidd olaf eich cwrs. Nid oes angen bod lle wedi’i gadarnhau ar eich cyfer mewn prifysgol neu goleg cyn i chi wneud cais.
Dim ond unwaith y bydd angen i chi wneud cais, hyd yn oed os yw eich cwrs yn para mwy na blwyddyn.
Ffurflenni cais
Er ein bod yn argymell gwneud cais ar-lein, mae gennym ffurflenni cais papur ar gael os oes angen un arnoch.