Sut mae gwneud cais a phryd


Bydd modd i chi wneud cais am gyllid ar gyfer y flwyddyn academaidd 2026 i 2027 o ddechrau mis Gorffennaf.

Pryd mae gwneud cais

Gallwch wneud cais yn awr ar gyfer:

  • 2025 i 2026
  • 2024 i 2025

Rhaid i chi wneud cais cyn pen 9 mis ar ôl dechrau blwyddyn academaidd olaf eich cwrs. Nid oes angen bod lle wedi’i gadarnhau ar eich cyfer mewn prifysgol neu goleg cyn i chi wneud cais.

Dim ond unwaith y bydd angen i chi wneud cais, hyd yn oed os yw eich cwrs yn para mwy na blwyddyn.

Ffurflenni cais

Er ein bod yn argymell gwneud cais ar-lein, mae gennym ffurflenni cais papur ar gael os oes angen un arnoch.