Cam 2: Gwneud cais
Cyrsiau Graddau Meistr ôl-raddedig

Profi pwy ydych chi

Os oes gennych basbort dilys ar gyfer y DU

Gallwch gadarnhau pwy ydych chi drwy nodi manylion eich pasbort dilys ar gyfer y DU pan fyddwch yn gwneud cais. Nid oes angen i chi anfon eich pasbort gwreiddiol atom.

Gallwch hefyd anfon ffurflen manylion pasbort ar gyfer y DU:

Os nad oes gennych basbort dilys ar gyfer y DU

Os ydych yn ddinesydd y DU gallwch anfon copi o’ch tystysgrif geni neu fabwysiadu yn y DU atom.

Os ydych yn dod o’r tu allan i’r DU, gallwch roi manylion i ni o’ch dogfen hunaniaeth ddilys pan fyddwch yn gwneud cais. Gallwch roi manylion i ni o un o'r canlynol:

  • Pasbort
  • Cerdyn adnabod cenedlaethol
  • Cerdyn preswylio biometrig
  • Trwydded breswylio fiometrig

Os ydych yn ddinesydd Gwyddelig, mae angen i chi anfon eich pasbort dilys gwreiddiol y DU, Gweriniaeth Iwerddon neu'r UE.

Dylech ganiatáu 8 wythnos i ni ddychwelyd eich dogfennau, pan fyddwch yn trefnu unrhyw deithiau yn ystod y cyfnod hwnnw. Ni allwn warantu y bydd y dogfennau’n cael eu dychwelyd yn gynt. Os ydych wedi trefnu teithiau ac os byddwch yn teithio yn ystod y cyfnod dan sylw, peidiwch ag anfon eich pasbort na’ch cerdyn adnabod atom. Anfonwch eich dogfennau ar ôl i chi ddychwelyd.