Profi pwy ydych chi


Os oes gennych basbort dilys ar gyfer y DU

Gallwch gadarnhau pwy ydych chi drwy nodi manylion eich pasbort dilys ar gyfer y DU pan fyddwch yn gwneud cais. Nid oes angen i chi anfon eich pasbort gwreiddiol atom.

Gallwch hefyd anfon ffurflen manylion pasbort ar gyfer y DU:

Os nad oes gennych basbort dilys ar gyfer y DU

Os ydych wedi cael statws dan y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE, bydd angen i chi roi cod rhannu i ni i brofi eich statws o ran mewnfudo a phrofi pwy ydych chi. Nid oes angen i chi anfon pasbort atom.

Os nad ydych wedi cael statws dan y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE, dylech anfon eich tystysgrif geni neu fabwysiadu wreiddiol yn y DU atom neu eich pasbort neu gerdyn adnabod gwreiddiol nad yw ar gyfer y DU. Cofiwch gynnwys eich enw a’ch cyfeiriad.

Bydd unrhyw ddogfennau adnabod gwreiddiol y byddwch yn eu hanfon yn cael eu dychwelyd atoch cyn pen hyd at 8 wythnos ar ôl i ni eu cael.

Dylech ganiatáu 8 wythnos i ni ddychwelyd eich dogfennau, pan fyddwch yn trefnu unrhyw deithiau yn ystod y cyfnod hwnnw. Ni allwn warantu y bydd y dogfennau’n cael eu dychwelyd yn gynt. Os ydych wedi trefnu teithiau ac os byddwch yn teithio yn ystod y cyfnod dan sylw, peidiwch ag anfon eich pasbort na’ch cerdyn adnabod atom. Anfonwch eich dogfennau ar ôl i chi ddychwelyd.