Cyllid ar gyfer cyrsiau Doethuriaeth ôl-raddedig
Eich siwrnai o ran cyllid myfyrwyr
Dyma gyfle i gael gwybod beth i’w ddisgwyl ar eich siwrnai o ran cyllid myfyrwyr. Gallwch ddysgu am yr amryw gamau, o’r adeg cyn i chi wneud cais i’r adeg y byddwch yn gwneud eich ad-daliad olaf.
Cyn i chi wneud cais
Dyma gyfle i chi gael gwybod pa fathau o gyllid myfyrwyr sydd ar gael a phwy all ei gael.
Beth sydd ar gael
Gall y rhan fwyaf o fyfyrwyr gael benthyciad i helpu gyda chostau eu cwrs.
Mae’n bosibl hefyd y byddwch yn gallu cael help ychwanegol ar ben hynny, os oes gennych anabledd.
Pwy sy’n gymwys
Bydd eich cymhwysedd i gael cyllid myfyrwyr yn dibynnu ar eich cenedligrwydd, eich statws preswylio, eich cwrs a’ch astudiaethau blaenorol.
Gwneud cais
Dyma gyfle i chi gael gwybod sut mae gwneud cais am gyllid myfyrwyr, pa dystiolaeth y gallai fod angen i chi ei darparu a sut y byddwn yn cyfrifo faint o gyllid myfyrwyr y gallwch ei gael.
Sut mae gwneud cais a phryd
Dyma gyfle i chi gael gwybod beth yw’r ffordd hawsaf o wneud cais a phryd y mae’r dyddiad cau ar gyfer gwneud cais.
Tystiolaeth i brofi pwy ydych chi
Bydd yn rhaid i bob myfyriwr newydd anfon tystiolaeth i brofi mai nhw ydyn nhw! Dyma gyfle i chi gael gwybod beth y gallwn ei dderbyn a sut mae anfon y dystiolaeth.
Cael eich cyllid myfyrwyr
Dyma gyfle i chi gael gwybod sut y bydd eich cyllid myfyrwyr yn cael ei dalu i chi pan fydd eich cais wedi’i gymeradwyo
Eich llythyr Hysbysiad o Hawl
Mae’r llythyr hwn yn rhoi cadarnhad i chi o beth y byddwch yn ei gael a phryd
Yn ystod eich astudiaethau
Os bydd eich amgylchiadau’n newid yn ystod y flwyddyn academaidd, bydd angen i chi ddiweddaru eich cais. Gallai newid eich cais effeithio ar faint o gyllid myfyrwyr y gallwch ei gael.
Newidiadau yn eich amgylchiadau
Dyma gyfle i chi gael gwybod sut mae diweddaru eich cyfrif a pha newidiadau y mae angen i chi sôn wrthym amdanynt.
Ailasesu eich hawl
Ailasesiad yw pan fyddwn yn ailgyfrifo eich hawl i gyllid myfyrwyr (faint y gallwch ei gael).
Ar ôl i chi orffen neu adael eich cwrs
Dyma gyfle i chi gael gwybod sut a phryd y byddwch yn dechrau ad-dalu eich benthyciad.
Ad-dalu eich benthyciad
Dyma gyfle i chi gael gwybod sut y mae’r broses ad-dalu yn gweithio, drwy ddarllen ein canllaw manwl ar-lein.