Cam 2: Gwneud cais
Cyrsiau doethuriaeth ôl-raddedig

Sut mae gwneud cais a phryd

Bydd modd i chi wneud cais am gyllid ar gyfer y flwyddyn academaidd 2026 i 2027 o ddechrau mis Gorffennaf.

Pryd mae gwneud cais

Gallwch wneud cais yn awr ar gyfer:

  • 2025 i 2026
  • 2024 i 2025

Rhaid i chi wneud cais cyn pen 9 mis ar ôl dechrau blwyddyn academaidd olaf eich cwrs. Nid oes angen bod lle wedi’i gadarnhau ar eich cyfer mewn prifysgol neu goleg cyn i chi wneud cais.

Dim ond unwaith y bydd angen i chi wneud cais, hyd yn oed os yw eich cwrs yn para mwy na blwyddyn. Er, os byddwch yn ymgeisio am eich benthyciad ar ôl eich blwyddyn gyntaf, efallai na fyddwch yn derbyn yr uchafswm. Dysgwch ragor ar ein tudalen beth sydd ar gael.

Ffurflenni cais

Er ein bod yn argymell gwneud cais ar-lein, mae gennym ffurflenni cais papur ar gael os oes angen un arnoch. Cysylltwch â ni am ffurflen gais.