CAM 1: CYN I CHI WNEUD CAIS
Myfyrwyr israddedig rhan-amser Cymreig

Cymorth Arbennig

Caiff Cymorth Arbennig ei ddyfarnu i fyfyrwyr sy’n hawlio rhai budd-daliadau’n ymwneud ag incwm, a bwriedir iddo helpu gyda chostau megis llyfrau, cyfarpar cyrsiau a theithio.

Os ydych yn gymwys i gael Cymorth Arbennig, bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn diystyru eich hawl i grant rhan-amser, hyd at uchafswm o £4,500, wrth gyfrifo unrhyw fudd-daliadau y mae gennych hawl iddynt.

I gael cyngor a gwybodaeth am ddim am fudd-daliadau lles a gwasanaethau eraill, cysylltwch â Cyngor ar Bopeth Cymru.

Os gwnaethoch ddechrau eich cwrs ar 1 Medi 2018 neu wedi hynny

Bydd y benthyciad a’r grant cynhaliaeth a gewch yn dibynnu ar incwm eich cartref a dwyster eich cwrs. Nodwch y caiff y Grant Cynhaliaeth ei alw hefyd yn Grant Dysgu Llywodraeth Cymru.

Mae’n bosibl y caiff Cymorth Arbennig ei alw hefyd yn Daliad Cymorth Arbennig.

Mae’r tablau hyn yn dangos faint o fenthyciad a grant cynhaliaeth y gallech ei gael ar sail enghreifftiau o incwm cartref a dwyster cwrs:

2023 i 2024

Dwyster cwrs yn 25%
Incwm y cartref Benthyciad Grant
£25,000 neu lai £663 £1,500
£35,000 £1,028 £1,135
£45,000 £1,393 £769
£59,200 neu fwy £1,913 £250
Cyfanswm £2,163
Dwyster cwrs yn 50%
Incwm y cartref Benthyciad Grant
£25,000 neu lai £1,325 £3,000
£35,000 £2,056 £2,270
£45,000 £2,787 £1,539
£59,200 neu fwy £3,825 £500
Cyfanswm £4,325
Dwyster cwrs yn 75%
Incwm y cartref Benthyciad Grant
£25,000 neu lai £1,988 £4,500
£35,000 £3,083 £3,404
£45,000 £4,180 £2,308
£59,200 neu fwy £5,738 £750
Cyfanswm £6,488

2022 i 2023

Dwyster cwrs yn 25%
Incwm y cartref Benthyciad Grant
£25,000 neu lai £476 £1,500
£35,000 £841 £1,135
£45,000 £1,207 £769
£59,200 neu fwy £1,726 £250
Cyfanswm £1,976
Dwyster cwrs yn 50%
Incwm y cartref Benthyciad Grant
£25,000 neu lai £953 £3,000
£35,000 £1,683 £2,270
£45,000 £2,414 £1,539
£59,200 neu fwy £3,453 £500
Cyfanswm £3,953
Dwyster cwrs yn 75%
Incwm y cartref Benthyciad Grant
£25,000 neu lai £1,429 £4,500
£35,000 £2,525 £3,404
£45,000 £3,621 £2,308
£59,200 neu fwy £5,179 £750
Cyfanswm £5,929

Enghreifftiau’n unig yw’r ffigurau sydd yn y tablau.

Bydd angen i chi roi gwybod i ni os bydd eich amgylchiadau’n newid yn ystod eich cwrs, er mwyn sicrhau eich bod yn cael y cymorth y mae gennych hawl iddo.

Bydd yn rhaid i chi ad-dalu eich Benthyciad Cynhaliaeth, gan gynnwys llog, pan fyddwch wedi gorffen neu adael eich cwrs. Nid oes angen i chi ad-dalu eich grant.

Os byddwch yn 60 oed neu hŷn ar ddechrau eich cwrs, ni fyddwch yn gymwys i gael Benthyciad Cynhaliaeth.

Pwy sy’n gymwys

Mae’n bosibl y byddwch yn gymwys i gael Cymorth Arbennig os oes unrhyw un o’r canlynol yn berthnasol i chi:

  • rydych yn rhiant sengl neu’n rhiant maeth sengl, ac mae gennych blentyn neu berson ifanc dan 20 oed sy’n cael addysg lawn-amser ar lefel sydd islaw addysg uwch
  • mae eich partner hefyd yn fyfyriwr, ac mae un ohonoch neu’r ddau ohonoch yn gyfrifol am blentyn neu berson ifanc dan 20 oed sy’n cael addysg lawn-amser ar lefel sydd islaw addysg uwch
  • mae gennych anabledd ac rydych yn gymwys i gael y Premiwm Anabledd neu’r Premiwm Anabledd Difrifol
  • rydych yn fyddar ac rydych yn gymwys i gael Lwfans Myfyrwyr Anabl
  • rydych wedi cael eich trin fel rhywun nad yw’n gallu gweithio am o leiaf 28 wythnos
  • mae gennych anabledd ac rydych yn gymwys i gael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm
  • rydych yn gymwys i gael Budd-dal Tai
  • rydych yn gymwys i gael yr elfen Tai sy’n perthyn i Gredyd Cynhwysol
  • mae gennych hawl i gael Taliad Annibyniaeth Personol
  • mae gennych hawl i gael Taliad Annibyniaeth y Lluoedd Arfog
  • mae gennych hawl i gael Lwfans Byw i’r Anabl
  • rydych yn disgwyl dychwelyd i gwrs ar ôl cymryd amser a gytunwyd allan o’r cwrs hwnnw oherwydd salwch neu gyfrifoldeb gofalu sydd wedi dod i ben erbyn hyn
  • rydych yn 60 oed neu hŷn.

Sut mae gwneud cais

Gallwch wneud cais ar-lein ynmoeih pcllid myfyrwyr rhan-amser.

Byddwch yn cael llythyr hysbysiad o hawl, a fydd yn cadarnhau faint o gymorth y mae gennych hawl iddo yn ystod y flwyddyn academaidd. Fodd bynnag, os byddwch yn bodloni unrhyw un o’r meini prawf yn yr adran ‘Pwy sy’n gymwys’ uchod, bydd y swm llawn o Grant Cynhaliaeth rhan-amser (a gaiff ei alw hefyd yn Grant Dysgu Llywodraeth Cymru) y mae gennych hawl iddo’n cael ei drin fel Cymorth Arbennig gan yr Adran Gwaith a Phensiynau, a bydd yr Adran yn ei ddiystyru wrth gyfrifo unrhyw fudd-daliadau y mae gennych hawl iddynt. Yr Adran Gwaith a Phensiynau fydd yn gyfrifol am gadarnhau eich hawl i fudd-daliadau.

Os byddwch yn 60 oed neu hŷn ar ddechrau eich cwrs, dim ond ar gyfer Grant Cynhaliaeth y byddwch yn cael eich asesu, oherwydd ni fydd gennych hawl i wneud cais am Fenthyciad Cynhaliaeth.

Cael eich talu

Byddwn yn talu eich arian i mewn i’ch cyfrif banc, 3 gwaith y flwyddyn fel rheol, ar ddechrau pob tymor.

I gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â chael eich talu, ewch i’n tudalen bwrpasol sy’n cynnwys canllawiau am daliadau.