Cam 1: Cyn i chi wneud cais
Myfyrwyr israddedig rhan-amser Cymreig

Beth sydd ar gael os gwnaethoch ddechrau cyn 1 Medi 2018

Mae’r wybodaeth hon ar gyfer myfyrwyr a ddechreuodd eu cwrs ar ôl 1 Medi 2014, ond cyn 1 Medi 2018. Cael gwybod beth sydd ar gael os gwnaethoch ddechrau wedi hynny.

Benthyciad Ffïoedd Dysgu

Gallech gael hyd at £6,935 y flwyddyn, yn dibynnu ar faint y mae eich cwrs yn ei gostio a ble’r ydych yn astudio. Ni fydd y swm a gewch yn dibynnu ar incwm eich cartref.

Byddwn yn talu eich benthyciad yn uniongyrchol i’ch prifysgol neu’ch coleg. Rhaid i chi ad-dalu’r benthyciad, gan gynnwys llog, pan fyddwch wedi gorffen neu wedi gadael eich cwrs ac yn ennill mwy na’r trothwy.

2023 i 2024

Ble’r ydych yn astudio Uchafswm y benthyciad
Mewn unrhyw brifysgol neu goleg yng Nghymru, gan gynnwys y Brifysgol Agored £2,625
Mewn prifysgol neu goleg cyhoeddus yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon £6,935
Mewn prifysgol neu goleg preifat yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon £4,625

2022 i 2023

Ble’r ydych yn astudio Uchafswm y benthyciad
Mewn unrhyw brifysgol neu goleg yng Nghymru, gan gynnwys y Brifysgol Agored £2,625
Mewn prifysgol neu goleg cyhoeddus yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon £6,935
Mewn prifysgol neu goleg preifat yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon £4,625

Costau byw

Gallech hefyd gael Grant Cwrs gwerth hyd at £1,155 i helpu gyda’ch costau byw. Rhaid i chi fod yn astudio ar ddwyster o 50% neu fwy yn ystod y flwyddyn academaidd. Mae’r hyn a gewch chi yn dibynnu ar incwm y cartref. Nid oes yn rhaid i chi ei ad-dalu.

Mae’r tabl hwn yn dangos faint y gallech ei gael ar sail enghreifftiau o incwm cartref:

Incwm y cartref Grant Cwrs
£26,095 neu lai £1,155
£26,096 i £28,179 £1,155 i £51
£28,180 £50
£28,181 Dim

Help ychwanegol

Os oes gennych anabledd neu anhwylder iechyd hirdymor

Mae’n bosibl y byddwch yn gallu gwneud cais am Lwfans Myfyrwyr Anabl.

Os oes gennych blant neu oedolion dibynnol

Mae’n bosibl y byddwch yn gallu gwneud cais am: