Cam 1: Cyn i chi wneud cais
Myfyrwyr israddedig llawn amser, ffioedd dysgu a chostau byw

Grant Teithio

Gallwch wneud cais am Grant Teithio i dalu’r costau teithio ychwanegol a allai fod gennych os ydych yn astudio dramor neu os ydych yn fyfyriwr gofal iechyd sydd ar leoliad yn y DU.

Bydd y swm a gewch yn dibynnu ar incwm eich cartref a’r adeg y gwnaethoch ddechrau eich cwrs. Nid oes yn rhaid i chi ei ad-dalu.

Beth sydd ar gael

Gallwch hawlio costau teithio rhesymol os ydych yn astudio dramor neu os ydych ar leoliad gofal iechyd yn y DU.

Bydd yn rhaid i chi dalu naill ai £303 cyntaf neu £1,000 cyntaf y costau eich hun, yn dibynnu ar incwm eich cartref a’r adeg y gwnaethoch ddechrau eich cwrs.

Dylech geisio gadw’r costau mor isel ag sy’n bosibl, er enghraifft dylech brynu tocynnau dosbarth cyffredin yn hytrach na thocynnau dosbarth cyntaf.

Os ydych yn astudio dramor

Gallwch hawlio ar gyfer:

  • hyd at 3 taith ddwy ffordd y flwyddyn rhwng y DU a’r brifysgol neu’r coleg sydd dramor
  • yswiriant meddygol a fisâu teithio.

Mae’n bosibl y byddwch yn gallu hawlio ar gyfer costau teithio eich plant os ydych yn rhiant sengl.

Os ydych yn fyfyriwr gofal iechyd ar leoliad yn y DU

Gallwch hawlio ar gyfer costau teithio rhwng eich cartref a’r ysbyty neu’r sefydliad arall lle’r ydych ar leoliad.

Pwy sy’n gymwys

Rhaid i chi naill ai fod yn:

  • astudio dramor yn rhan o’ch cwrs
  • ar leoliad astudio neu waith Erasmus+, cynllun Turing neu Taith, neu
  • mynychu lleoliad clinigol meddygol neu ddeintyddol yn y DU

Ni allwch hawlio am yr un costau a ad-dalwyd eisoes o raglen Taith, Erasmus+ neu Gynllun Turing.

Os gwnaethoch ddechrau eich cwrs ar 1 Awst 2018 neu wedi hynny

Rhaid i chi dalu £303 cyntaf y costau teithio eich hun os yw incwm eich cartref yn llai na £59,200.

Rhaid i chi dalu £1,000 cyntaf y costau teithio eich hun:

  • os yw incwm eich cartref yn £59,200 neu fwy
  • os nad ydych yn cael cyllid myfyrwyr sy’n dibynnu ar incwm eich cartref.

Os gwnaethoch ddechrau eich cwrs rhwng 1 Medi 2012 a 31 Gorffennaf 2018

Rhaid:

  • eich bod yn cael cyllid myfyrwyr sy’n dibynnu ar incwm eich cartref
  • i chi dalu £303 cyntaf y costau teithio eich hun.

Os yw incwm eich cartref dros £59,200, bydd £1 yn cael ei thynnu o’ch Grant Teithio am bob £5 y mae incwm eich cartref dros £59,200.

Sut mae gwneud cais

Os ydych yn astudio dramor

Bydd angen i chi gyflwyno ffurflen cwrs tramor:

Pan fyddwch wedi cyflwyno ffurflen cwrs tramor, dylech ddefnyddio’r ffurflen hawlio i hawlio ar gyfer costau yr ydych wedi’u talu:

Os ydych yn fyfyriwr gofal iechyd ar leoliad yn y DU

Bydd y ffurflen y mae ei hangen arnoch yn cael ei hanfon atoch yn awtomatig, ar ôl i chi wneud cais am gyllid myfyrwyr.

Cyflwyno tystiolaeth

Dylech sicrhau eich bod yn cadw copïau o dderbynebau ar gyfer unrhyw gostau yr ydych am eu hawlio. Bydd angen i chi ddarparu’r rhain gyda’ch ffurflen hawlio.

I gael rhagor o wybodaeth ynglŷn ag anfon tystiolaeth atom, ewch i’n tudalen bwrpasol sy’n rhoi canllawiau am dystiolaeth.

Cael eich talu

Byddwn yn talu eich arian i’ch cyfrif banc ar ôl cymeradwyo eich hawliad.