Cam 1: Cyn i chi wneud cais
Myfyrwyr israddedig llawn-amser Cymreig

Myfyrwyr ag oedolion dibynnol

Gallwch wneud cais am Grant Oedolion Dibynnol er mwyn talu rhai o’r costau ychwanegol a allai fod gennych os ydych yn fyfyriwr israddedig sydd ag oedolyn sy’n dibynnu arnoch yn ariannol.

Bydd y swm a gewch yn dibynnu ar incwm eich cartref. Nid oes yn rhaid i chi ei ad-dalu.

Beth sydd ar gael

Bydd y swm a gewch yn dibynnu ar incwm eich cartref, incwm eich dibynyddion a ph’un a oes gennych bartner neu beidio. Os ydych yn fyfyriwr rhan-amser, bydd eich Grant Oedolion Dibynnol yn cael ei gyfrifo ar sail dwyster eich cwrs.

Blwyddyn academaidd 2021 i 2022

Gallwch gael hyd at £3,190 y flwyddyn.

Blwyddyn academaidd 2020 i 2021

Gallwch gael hyd at £3,094 y flwyddyn.

Pwy sy’n gymwys

Gallwch wneud cais am Grant Oedolion Dibynnol:

  • os oes gennych oedolyn sy’n dibynnu arnoch yn ariannol
  • os ydych yn cael cyllid myfyrwyr israddedig llawn-amser neu ran-amser sy’n dibynnu ar incwm eich cartref
  • os ydych dros 25 oed neu’n cael eich ystyried yn unigolyn annibynnol
  • • os gwnaethoch ddechrau cwrs ar 1 Awst 2018 neu wedi hynny, os ydych dan 25 oed ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf eich cwrs, os ydych yn cael eich ystyried yn unigolyn annibynnol ac os ydych yn byw gyda phartner sy’n dibynnu arnoch yn ariannol

Ni allwch wneud cais am Grant Oedolion Dibynnol ar gyfer:

  • plentyn
  • eich plentyn eich hun sy’n oedolyn
  • rhywun sydd eisoes yn cael cyllid myfyrwyr

Ni fyddwch yn gymwys os oes gan yr oedolyn sy’n dibynnu arnoch yn ariannol incwm o dros £3,923 y flwyddyn, oni bai mai eich gŵr, eich gwraig neu’ch partner yw’r oedolyn hwnnw.

Sut mae gwneud cais

Gallwch roi gwybod i ni yn eich cais am eich prif gyllid myfyrwyr a ydych am wneud cais am Grant Oedolion Dibynnol. Pan fyddwch wedi cyflwyno eich cais, byddwn yn anfon y ffurflen atoch er mwyn i chi wneud cais am y Grant yn eich cyfrif ar-lein.

Os ydych eisoes wedi anfon eich cais am gyllid myfyrwyr atom heb lenwi’r adran ar gyfer grantiau dibynyddion, bydd angen i chi anfon ffurflen gais yn lle hynny:

Anfon tystiolaeth atom

Bydd angen i chi anfon tystiolaeth o’ch oedolyn dibynnol. Dylech anfon copi o’r canlynol:

  • llythyr sy’n esbonio pam y mae’r oedolyn yn dibynnu arnoch
  • ffurflen P60 sy’n dangos incwm yr oedolyn
  • eich tystysgrif priodas, os ydych dan 25 oed ac yn hawlio ar gyfer eich gŵr neu’ch gwraig

Cael eich talu

Byddwn yn talu eich arian i’ch cyfrif banc, 3 gwaith y flwyddyn ar ddechrau pob tymor fel rheol. Yna, gallwch ei ddefnyddio i dalu eich darparwr gofal plant.