Grant Gofal Plant
Gallwch wneud cais am Grant Gofal Plant er mwyn eich helpu i dalu eich costau gofal plant os ydych yn fyfyriwr israddedig sydd â phlant.
Bydd y swm a gewch yn dibynnu ar incwm eich cartref. Nid oes rhaid i chi ei dalu'n ôl.
Beth sydd ar gael
Bydd y swm a gewch yn dibynnu ar incwm eich cartref, faint o blant dibynnol sydd gennych a beth yw eich costau gofal plant.
Bydd yn rhaid i chi dalu unrhyw gostau gofal plant sy’n weddill eich hun. Os ydych yn fyfyriwr rhan-amser, bydd eich Grant Gofal Plant yn cael ei gyfrifo ar sail dwyster eich cwrs.
Blwyddyn academaidd 2023 i 2024
Gallech gael 85% o’ch costau gofal plant hyd at uchafswm o:
- £187 yr wythnos ar gyfer 1 plentyn dibynnol
- £321 yr wythnos ar gyfer 2 neu fwy o blant dibynnol
Os nad oes gennych ddarparwr gofal plant ar yr adeg y byddwch yn gwneud cais, gallwch gael Grant Gofal Plant o hyd, ond caiff hyn ei gapio ar £144 yr wythnos neu 85% o’r costau gwirioneddol, pa un bynnag yw’r isaf. Pan fyddwch wedi darparu manylion eich darparwr gofal plant, byddwn yn ailgyfrifo eich cyllid ar gyfer y swm uwch.
Os ydych yn rhiant i blentyn sydd rhwng 3 a 4 oed, gallech fod yn gymwys i gael mwy o gymorth gan Lywodraeth Cymru ar gyfer gofal plant, dan y Cynnig Gofal Plant sydd wedi’i ehangu yn ddiweddar er mwyn cynnwys rhieni sy’n fyfyrwyr.
Blwyddyn academaidd 2022 i 2023
Gallech gael 85% o’ch costau gofal plant hyd at uchafswm o:
- £184 yr wythnos ar gyfer 1 plentyn dibynnol
- £315 yr wythnos ar gyfer 2 neu fwy o blant dibynnol
Os nad oes gennych ddarparwr gofal plant ar yr adeg y byddwch yn gwneud cais, gallwch gael Grant Gofal Plant o hyd, ond caiff hyn ei gapio ar £141 yr wythnos neu 85% o’r costau gwirioneddol, pa un bynnag yw’r isaf. Pan fyddwch wedi darparu manylion eich darparwr gofal plant, byddwn yn ailgyfrifo eich cyllid ar gyfer y swm uwch.
Os ydych yn rhiant i blentyn sydd rhwng 3 a 4 oed, gallech fod yn gymwys i gael mwy o gymorth gan Lywodraeth Cymru ar gyfer gofal plant, dan y Cynnig Gofal Plant sydd wedi’i ehangu yn ddiweddar er mwyn cynnwys rhieni sy’n fyfyrwyr.
Pwy sy’n gymwys
Gallwch wneud cais am Grant Gofal Plant:
- os oes gennych o leiaf un plentyn dan 15 oed sy’n dibynnu arnoch yn ariannol, neu dan 17 oed os oes ganddo anghenion addysgol arbennig
- os ydych yn defnyddio darparwr gofal plant sydd wedi cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru
- yn mynychu cwrs amser llawn neu ran-amser (gan gynnwys cwrs dysgu o bell) ac yn cael cyllid myfyriwr israddedig sy'n dibynnu ar incwm eich cartref
Ni allwch wneud cais:
- os ydych yn hawlio elfen gofal plant Credyd Cynhwysol neu Gredyd Treth Gwaith
- os ydych yn cael gofal plant di-dreth gan Gyllid a Thollau EM
- os ydych yn talu perthynas i ofalu am eich plentyn chi’n unig
- os ydych chi neu’ch partner yn cael cyllid gan y GIG
Sut mae gwneud cais
Dylech wneud cais ar ôl i chi wneud cais am eich prif gyllid myfyrwyr, drwy anfon ffurflen gais er mwyn amcangyfrif eich costau gofal plant:
- Ffurflen gwneud cais am Grant Gofal Plant - 2023 i 2024
- Ffurflen gwneud cais am Grant Gofal Plant – 2022 i 2023
Os gwnaethoch nodi, wrth wneud cais am eich prif gyllid myfyrwyr, eich bod am wneud cais am Grant Gofal Plant byddwn yn anfon y ffurflen atoch yn awtomatig.
Anfon tystiolaeth
Dim ond ym mlwyddyn gyntaf eich cwrs y mae angen i chi roi tystiolaeth o'ch plant i ni. Dylech lanlwytho copi o un o'r canlynol:
- tystysgrif geni ar gyfer pob plentyn
- tystysgrif brodori ar gyfer pob plentyn
- dogfen gan y Swyddfa Gartref sy’n cadarnhau enw a dyddiad geni pob plentyn
Mae angen i chi hefyd brofi bod eich plant yn ddibynnol arnoch chi. Mae angen ichi gyflwyno copi o un o’r canlynol:
- holl dudalennau eich Hysbysiad o Ddyfarniad Credydau Treth diweddaraf yn eich enwi chi a’ch holl blant
- holl dudalennau eich Hysbysiad o Ddyfarniad Credyd Cynhwysol diweddaraf yn eich enwi chi a nifer y plant ar eich cais
- holl dudalennau eich llythyr Budd-dal Plant diweddaraf yn enwi eich holl blant (gall hyn fod yn eich enw chi neu eich partner)
Gallwn dderbyn lawrlwythiadau neu sgrinluniau o’ch datganiad Credyd Cynhwysol neu lythyr Budd-dal Plant o’ch cyfrif ar-lein os nad oes gennych gopi papur. Rhaid i bob tudalen fod yn glir ac yn bresennol.
Dylech lanlwytho'ch holl ddogfennau ar yr un pryd er mwyn osgoi unrhyw oedi gyda'ch cais.
I gael rhagor o wybodaeth ynglŷn ag anfon tystiolaeth atom, ewch i’n tudalen bwrpasol sy’n rhoi canllawiau am dystiolaeth.
Cadarnhau eich costau
Rhaid i chi a’ch darparwr gofal plant gadarnhau eich costau gofal plant 3 gwaith y flwyddyn. Byddwn yn anfon ffurflen atoch bob tro y bydd angen i chi wneud hynny:
- Ffurflen cadarnhau taliadau gofal plant - 2023 i 2024
- Ffurflen cadarnhau taliadau gofal plant – 2022 i 2023
Os oes gormod o arian wedi’i dalu i chi, byddwn yn tynnu’r swm sy’n ormod allan o’ch taliad nesaf. Dyma gyfle i chi gael gwybod mwy am beth fydd yn digwydd pan fydd gormod o Grant Gofal Plant wedi’i dalu i chi.
Os nad oes digon o arian wedi’i dalu i chi, byddwn yn talu unrhyw swm sy’n ddyledus i chi cyn gynted ag sy’n bosibl.
Os na fyddwch yn cadarnhau eich costau, bydd eich Grant Gofal Plant yn cael ei atal a bydd yn rhaid i chi ad-dalu unrhyw arian sydd wedi’i dalu i chi’n barod.
Cael eich talu
Byddwn yn talu eich arian i’ch cyfrif banc, 3 gwaith y flwyddyn ar ddechrau pob tymor fel rheol. Yna, gallwch ei ddefnyddio i dalu eich darparwr gofal plant.
I gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â chael eich talu, ewch i’n tudalen bwrpasol sy’n rhoi canllawiau am daliadau.