Cyllid ar gyfer myfyrwyr israddedig llawn-amser Cymreig

Eich siwrnai o ran cyllid myfyrwyr

Dyma gyfle i gael gwybod beth i’w ddisgwyl ar eich siwrnai o ran cyllid myfyrwyr. Gallwch ddysgu am yr amryw gamau, o’r adeg cyn i chi wneud cais i’r adeg y byddwch yn gwneud eich ad-daliad olaf.

Mae’r cyfnod i fyfyrwyr israddedig llawn-amser wneud cais am gyllid myfyrwyr ar gyfer 2023 i 2024 wedi agor erbyn hyn! Crëwch gyfrif neu mewngofnodwch i wneud cais! Gwnewch gais cyn gynted ag sy’n bosibl er mwyn sicrhau eich bod yn cael eich arian mewn pryd ar gyfer dechrau eich cwrs. Os byddwch yn gwneud cais yn hwyr, gallai eich arian gyrraedd yn hwyr hefyd.

Cam 1

Cyn i chi wneud cais

Dyma gyfle i chi gael gwybod pa fathau o gyllid myfyrwyr sydd ar gael a phwy all ei gael.

Beth sydd ar gael

Gall y rhan fwyaf o fyfyrwyr gael benthyciad i dalu am eu ffïoedd dysgu, a chymysgedd o fenthyciad a grant i helpu gyda’u costau byw.

Mae’n bosibl hefyd y byddwch yn gallu cael help ychwanegol ar ben hynny, os oes gennych blant, oedolyn dibynnol neu anabledd.

Dangos beth sydd ar gael

Pwy sy’n gymwys

Bydd eich cymhwysedd i gael cyllid myfyrwyr yn dibynnu ar eich cenedligrwydd, eich statws preswylio, eich cwrs a’ch astudiaethau blaenorol.

Dangos pwy sy’n gymwys
Cam 2

Gwneud cais

Dyma gyfle i chi gael gwybod sut mae gwneud cais am gyllid myfyrwyr, pa dystiolaeth y gallai fod angen i chi ei darparu a sut y byddwn yn cyfrifo faint o gyllid myfyrwyr y gallwch ei gael.

Sut mae gwneud cais

Dyma gyfle i chi gael gwybod beth yw’r ffordd hawsaf o wneud cais a phryd y mae’r dyddiad cau ar gyfer gwneud cais.

Darllen mwy

Tystiolaeth i brofi pwy ydych chi

Mae’n bosibl y bydd angen i ni ofyn i chi anfon tystiolaeth atom. Dyma gyfle i chi gael gwybod beth y gallem ofyn i chi amdano a sut mae anfon y dystiolaeth.

Darllen mwy

Profi incwm eich cartref

Mae’n bosibl y bydd angen tystiolaeth arnom o incwm eich cartref. Dyma gyfle i chi gael gwybod beth y gallem ofyn i chi amdano a sut mae anfon y dystiolaeth.

Darllen mwy
Cam 3

Cael eich cyllid myfyrwyr

Dyma gyfle i chi gael gwybod sut y bydd eich cyllid myfyrwyr yn cael ei dalu i chi pan fydd eich cais wedi’i gymeradwyo.

Eich llythyr Hysbysiad o Hawl

Dyma gyfle i chi gael gwybod sut mae diweddaru eich cyfrif a pha newidiadau y mae angen i chi sôn wrthym amdanynt.

Darllen mwy

Cael eich cyllid myfyrwyr

Dyma gyfle i chi gael gwybod sut y bydd eich cyllid myfyrwyr yn cael ei dalu i chi pan fydd eich cais wedi’i gymeradwyo.

Darllen mwy
Cam 4

Ystod eich astudiaethau

Os bydd eich amgylchiadau’n newid yn ystod y flwyddyn academaidd, bydd angen i chi ddiweddaru eich cais. Gallai newid eich cais effeithio ar faint o gyllid myfyrwyr y gallwch ei gael

Newid eich manylion

Dyma gyfle i chi gael gwybod sut mae diweddaru eich cyfrif a pha newidiadau y mae angen i chi sôn wrthym amdanynt.

Darllen mwy

Ailasesu eich hawl

Ailasesiad yw pan fyddwn yn ailgyfrifo eich hawl i gyllid myfyrwyr (faint y gallwch ei gael).

Mwy am ailasesu cyllid myfyrwyr
Cam 5

Ar ôl i chi orffen neu adael eich cwrs

Dyma gyfle i chi gael gwybod sut a phryd y byddwch yn dechrau ad-dalu eich benthyciad.

Ad-dalu eich benthyciad

Dyma gyfle i chi gael gwybod sut y mae’r broses ad-dalu yn gweithio, drwy ddarllen ein canllaw manwl ar-lein

Darllen mwy