Cyhoeddwyd: 11 Awst 2022  · Tagiwyd yn:  clirio

Mae’r cyfnod clirio ar ddod!


Mae diwrnod y canlyniadau Safon Uwch rownd y gornel, felly bydd llawer o fyfyrwyr yn troi atoch chi am help. Rydym yma i’ch helpu i wneud yn siŵr bod ganddynt yr holl wybodaeth angenrheidiol i roi trefn ar eu cyllid myfyrwyr cyn gynted ag sy’n bosibl, drwy ein tudalen newydd sy’n cynnwys canllawiau ynghylch y System Glirio.

Myfyrwyr nad ydynt wedi gwneud cais eto

Ein cyngor i fyfyrwyr nad ydynt wedi gwneud cais eto yw #PeidiwchGohirioGwneudCais #DontDelayYourPay, ac iddynt wneud cais yn awr am gyllid myfyrwyr er mwyn cael eu cyllid cyn gynted ag sy’n bosibl.

Myfyrwyr sydd wedi gwneud cais yn barod

Bydd angen i fyfyrwyr sydd wedi gwneud cais yn barod ac sydd wedi derbyn lle mewn prifysgol drwy’r System Glirio fewngofnodi a diweddaru eu cais. I baratoi ar gyfer diwrnod y canlyniadau, dylent:

  1. Mewngofnodi i’w cyfrif ar-lein
  2. Cliciwch ar 'Ceisiadau cyllid myfyriwr israddedig’
  3. Dewiswch y cais rydych chi'n ei ddymuno ei newid
  4. O dan y pennawd 'Rheoli eich cyllid myfyriwr', cliciwch ar 'Gweld a rheoli eich ceisiadau’
  5. Cliciwch ar 'Newid eich cais' ac yna cliciwch ar 'Newid eich cais' eto ar y dudalen nesaf
  6. Cliciwch ar 'Prifysgol/coleg a chwrs’
  7. Cliciwch ar 'Cyflwyno' unwaith i nhw nodi a chadarnhau eu newidiadau

Rydym wedi creu rhai adnoddau i chi eu defnyddio gyda’ch myfyrwyr a’u rhannu ar eich gwefan neu’ch sianelau ar gyfryngau cymdeithasol.

Dylech annog myfyrwyr i fynd i’n tudalen am y System Glirio ar wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru, lle gall myfyrwyr gael gafael ar bopeth y mae angen iddynt ei wybod ynghylch #Clirio2022.

Newyddion cysylltiedig

Mae’r cyfnod clirio ar ddod!

Mae diwrnod y canlyniadau Safon Uwch rownd y gornel, felly bydd llawer o fyfyrwyr yn troi atoch chi am help.