Cyhoeddwyd: 28 Chwefror 2022 · Diweddarwyd ddiwethaf: 28 Chwefror 2022  · Tagiwyd yn:  israddedig llawn-amser Cymreig  a  2022 i 2023

Gwnewch gais yn awr am gyllid myfyrwyr!


Mae’r cyfnod i fyfyrwyr israddedig llawn-amser wneud cais am gyllid myfyrwyr ar gyfer blwyddyn academaidd 2022 i 2023, boed yn fyfyrwyr newydd neu’n fyfyrwyr sy’n parhau â’u hastudiaethau, wedi agor erbyn hyn!

Gwnewch gais yn awr!

Os ydych yn gymwys i gael Benthyciad Ffïoedd Dysgu yn unig, dylech wneud cais gan ddefnyddio’r ffurflen gais ar gyfer myfyrwyr o’r UE.

Bydd y cyfnod i fyfyrwyr ôl-raddedig a myfyrwyr israddedig rhan-amser wneud cais am gyllid myfyrwyr yn agor yn yr haf.

Myfyrwyr newydd

Os ydych yn fyfyriwr newydd, dylech wneud cais erbyn 27 Mai 2022. Dim ond tua 30 munud y dylai ei gymryd i chi gwblhau eich cais! Nid oes angen bod lle wedi’i gadarnhau ar eich cyfer mewn prifysgol neu goleg – gallwch wneud cais yn awr a diweddaru eich manylion yn nes ymlaen os oes angen.

Gwnewch gais cyn gynted ag sy’n bosibl er mwyn sicrhau eich bod yn cael eich arian mewn pryd ar gyfer dechrau eich cwrs. Os byddwch yn gwneud cais yn hwyr, gallai eich arian gyrraedd yn hwyr hefyd!

Ewch i’n tudalen Darganfod Cyllid Myfyrwyr i gael gwybod pa gyllid sydd ar gael i chi yn ystod blwyddyn academaidd 2022 i 2023.

Myfyrwyr sy’n parhau â’u hastudiaethau

Os ydych yn fyfyriwr sy’n parhau â’ch astudiaethau, mae gennych ddigon o amser i fewngofnodi i’ch cyfrif ar-lein i wirio bod eich manylion presennol yn dal yn gywir.

Mae gennych hyd at 17 Mehefin 2022 i wneud cais o’r newydd am gyllid.

 

Newyddion cysylltiedig

Mae’r cyfnod i fyfyrwyr israddedig rhan-amser wneud cais ar gyfer 2022 i 2023 ar agor yn awr!

Y ffordd hawsaf o wneud cais yw ar-lein. Dim ond 30 munud y mae’n ei gymryd i wneud cais, a llai na hynny os ydych wedi gwneud cais o’r blaen.

2022 i 2023 Ceisiadau rhan amser ac Ôl-raddedig

Mae disgwyl y bydd y cyfnod i wneud ceisiadau am gyllid myfyrwyr israddedig rhan-amser a chyllid myfyrwyr ôl-raddedig yn agor ganol mis Mai.