Cam 1: Cyn i chi wneud cais
Cyrsiau Graddau Meistr ôl-raddedig

Benthyciad Gradd Meistr Ôl-raddedigar gyfer blwyddyn academaidd 2018 i 2019

Os gwnaethoch ddechrau cwrs Gradd Meistr ôl-raddedig llawn-amser neu ran-amser (a addysgir neu sy’n seiliedig ar ymchwil) rhwng 1 Awst 2018 a 31 Gorffennaf 2019, gallwch wneud cais am Fenthyciad Gradd Meistr Ôl-raddedig o hyd at £13,000.

Gellir defnyddio’r arian fel cyfraniad at gost eich cwrs a’ch costau byw.

Os ydych wedi dechrau cwrs Gradd Meistr ôl-raddedig llawn-amser neu ran-amser (a addysgir neu sy’n seiliedig ar ymchwil) ers 1 Awst 2019, gallwch wneud cais am Gyllid Gradd Meistr Ôl-raddedig.

Beth sydd ar gael

Bydd y benthyciad Gradd Meistr Ôl-raddedig yn cael ei dalu’n uniongyrchol i chi fel cyfraniad at gost eich cwrs a’ch costau byw. Bydd yr uchafswm y gallwch ei fenthyca’n dibynnu ar ba bryd y byddwch yn dechrau blwyddyn gyntaf eich cwrs. Os bydd eich cwrs yn dechrau:

  • ar 1 Awst 2018 neu wedi hynny – gallwch fenthyca hyd at £13,000

Os byddwch yn astudio am ddwy, tair neu bedair blwyddyn academaidd, bydd y benthyciad yn cael ei rannu’n gyfartal ar draws pob un o flynyddoedd eich cwrs. Er enghraifft, os byddwch yn dechrau cwrs ar ôl 1 Awst 2018, yr uchafswm a delir i chi bob blwyddyn fydd:

Hyd y cwrs Uchafswm y benthyciad Gradd Meistr Ôl-raddedig sydd ar gael ar gyfer pob blwyddyn
  Blwyddyn 1 Blwyddyn 2 Blwyddyn 3 Blwyddyn 4
1 blwyddyn academaidd benthyciad - £13,000      
2 blynyddoedd academaidd benthyciad - £6,500 benthyciad - £6,500    
3 blynyddoedd academaidd benthyciad - £4,333 benthyciad - £4,333 benthyciad - £5,334  
4 blynyddoedd academaidd benthyciad - £3,250 benthyciad - £3,250 benthyciad - £3,250 benthyciad - £3,250

Nid yw benthyciad Gradd Meistr Ôl-raddedig yn seiliedig ar incwm eich cartref.

Efallai y bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn ystyried y benthyciad Gradd Meistr Ôl-raddedig wrth gyfrifo unrhyw fudd-daliadau a gewch.

Cael eich talu

Byddwch yn cael y taliad cyntaf pan fyddwch yn dechrau eich cwrs a phan fydd eich prifysgol yn cadarnhau eich bod wedi cofrestru.

Byddwch yn cael yr arian ar ffurf tri thaliad – 33%, 33% a 34% – ar gyfer pob blwyddyn academaidd.

Sut a phryd mae gwneud cais

Gallwch wneud cais am fenthyciad Gradd Meistr Ôl-raddedig ar gyfer blwyddyn academaidd 2018 i 2019 yn awr.

Sut mae gwneud cais

Y ffordd gyflymaf o wneud cais am fenthyciad Gradd Meistr Ôl-raddedig yw ar-lein drwy fewngofnodi i’ch cyfrif.

Nid oes arnoch angen lle sydd wedi’i gadarnhau mewn prifysgol neu goleg. Os byddwch yn newid eich cwrs, gallwch ddiweddaru’r manylion yn nes ymlaen.

Mae angen cwblhau dau gam syml wrth wneud cais am eich benthyciad Gradd Meistr Ôl-raddedig ar-lein:

  1. Mewngofnodwch i’ch cyfrif cyllid myfyrwyr a chyflwynwch eich cais.
  2. Rhowch unrhyw dystiolaeth angenrheidiol i ni. Ni allwn brosesu eich cais nes y byddwn wedi cael yr holl dystiolaeth y mae arnom ei hangen.

I gwblhau eich cais, bydd arnoch angen y canlynol:

  • pasport dilys ar gyfer y DU (os oes gennych un),
  • manylion eich cwrs a’ch prifysgol neu’ch coleg,
  • manylion eich cyfrif banc,
  • eich rhif Yswiriant Gwladol.

Dim ond unwaith y mae’n rhaid i chi wneud cais am eich benthyciad Gradd Meistr Ôl-raddedig, yn wahanol i gwrs ar gyfer israddedigion lle mae angen i chi wneud cais bob blwyddyn. Ni fydd yn rhaid i chi ailgyflwyno cais os yw eich cwrs yn para mwy na blwyddyn.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau yn Gymraeg. Ni fydd hynny’n golygu ein bod yn cymryd yn hwy nag arfer i ymateb.

Pryd mae gwneud cais

Mae angen i chi wneud cais o fewn 9 mis i ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd olaf eich cwrs.

Bydd diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd fel a ganlyn:

1 Medi, os yw’r cwrs yn dechrau ar 1 Awst neu wedi hynny a chyn 1 Ionawr;

1 Ionawr, os yw’r cwrs yn dechrau ar 1 Ionawr neu wedi hynny a chyn 1 Ebrill;

1 Ebrill, os yw’r cwrs yn dechrau ar 1 Ebrill neu wedi hynny a chyn 1 Gorffennaf;

1 Gorffennaf, os yw’r cwrs yn dechrau ar 1 Gorffennaf neu wedi hynny a chyn 1 Awst.

Tystiolaeth

Os byddwch yn cyflwyno eich cais heb yr holl wybodaeth y mae arnom ei hangen, byddwn yn ysgrifennu atoch er mwyn eich atgoffa y dylech ddarparu’r wybodaeth cyn gynted ag sy’n bosibl. Ni fyddwn yn talu unrhyw arian i chi nes y byddwn wedi cael yr holl wybodaeth a’r holl dystiolaeth y mae arnom eu hangen.

Canllawiau

Rydym wedi llunio canllaw sy’n esbonio popeth ynghylch y benthyciad Gradd Meistr Ôl-raddedig a’r telerau a’r amodau sy’n ymwneud ag ad-dalu. Mae’n bwysig iawn eich bod yn darllen y canllaw’n ofalus cyn gwneud cais am gyllid myfyrwyr.

Ffurflenni cais

Os na allwch wneud cais ar-lein, dylech anfon eich cais ar bapur.

Cyrsiau sy’n dechrau ar 1 Awst 2018 neu wedi hynny

Defnyddiwch y ffurflen gais a’r nodiadau canlynol.

Os yw eich cwrs yn dechrau ym mis Awst 2019 neu wedi hynny, bydd angen i chi wneud cais am gyllid Gradd Meistr Ôl-raddedig.

Cadarnhau pwy ydych chi

Gallwch gadarnhau pwy ydych chi drwy ddarparu rhif eich pasport dilys ar eich ffurflen gais. Os nad ydych wedi cynnwys manylion eich pasport yn eich cais, bydd angen i chi anfon y ffurflen cofnodi manylion pasport. Peidiwch ag anfon eich pasport atom.

Os nad oes gennych basport dilys ar gyfer y DU (neu os yw wedi dod i ben), gallwch anfon copi gwreiddiol eich tystysgrif geni neu fabwysiadu atom gan ddefnyddio’r ffurflen anfon tystysgrif geni neu fabwysiadu myfyrwyr ôl-raddedig.

Os ydych yn un o wladolion yr UE, anfonwch eich cerdyn adnabod cenedlaethol neu’ch pasport gwreiddiol.

Gwybodaeth ategol

Dylech ddefnyddio’r ffurflen dychwelyd dogfennau myfyrwyr ôl-raddedig pan fyddwch yn darparu gwybodaeth ychwanegol i ategu eich cais.

Os ydych yn weithiwr mudol o’r Ardal Economaidd Ewropeaidd/Y Swistir, mae’n bosibl hefyd y gofynnir i chi lenwi’r ffurflen cofnodi statws o ran cyflogaeth yn y DU.

Newid cais

Defnyddiwch eich cyfrif ar-lein i newid eich manylion personol, e.e. eich manylion cyswllt.

Newid y swm yr ydych wedi gofyn amdano

Dylech ddefnyddio’r ffurflen gofyn am fenthyciad myfyrwyr ôl-raddedig i newid y swm yr ydych wedi gwneud cais amdano – ni allwch wneud hynny ar-lein.

Newidiadau eraill

Dylech ddefnyddio’r ffurflen cofnodi newid mewn amgylchiadau myfyrwyr ôl-raddedig os oes angen i chi newid unrhyw fanylion eraill, e.e. enw eich prifysgol neu’ch coleg, neu’ch cwrs. Ni allwch wneud hynny ar-lein.

Cymryd seibiant neu dynnu’n ôl o’ch cwrs

Yn bwriadu cymryd seibiant neu adael eich cwrs yn barhaol?

Dywedwch wrth eich prifysgol neu’ch coleg cyn gynted ag sy’n bosibl os byddwch yn penderfynu tynnu’n ôl o’ch cwrs. Gallai effeithio ar eich taliadau yn y dyfodol a’ch cymhwystra i gael cyllid. Rydym wedi llunio canllaw sy’n cynnwys rhagor o wybodaeth am hynny.

Cymryd seibiant o’ch astudiaethau neu dynnu’n ôl o’ch cwrs (PDF, 234KB)