Beth sydd ar gael
Mae’r wybodaeth hon ar gyfer myfyrwyr a ddechreuodd eu cwrs ar ôl 1 Medi 2019. Cael gwybod beth sydd ar gael os gwnaethoch ddechrau cyn hynny.
Gallech gael cymysgedd o fenthyciad a grant i helpu gyda chostau eich cwrs. Bydd y swm a gewch yn dibynnu ar incwm eich cartref.
Dyma uchafswm y cyllid sydd ar gael:
- £18,430 ar gyfer 2022 i 2023
- £18,025 ar gyfer 2021 i 2022
Academic year 2022 to 2023
Mae’r tabl hwn yn dangos faint y gallech ei gael, ar sail enghreifftiau o incwm y cartref:
Incwm y cartref | Benthyciad | Grant |
£18,370 ac o dan | £11,545 | £6,885 |
£25,000 | £12,500 | £5,930 |
£35,000 | £13,942 | £4,488 |
£45,000 | £15,383 | £3,047 |
£59,200 a thro | £17,430 | £1,000 |
At ddibenion esboniadol yn unig y mae’r ffigurau yn y tablau.
Academic year 2021 to 2022
Mae’r tabl hwn yn dangos faint y gallech ei gael, ar sail enghreifftiau o incwm y cartref:
Incwm y cartref | Benthyciad | Grant |
£18,370 ac o dan | £11,140 | £6,885 |
£25,000 | £12,095 | £5,930 |
£35,000 | £13,537 | £4,488 |
£45,000 | £14,978 | £3,047 |
£59,200 a thro | £17,025 | £1,000 |
At ddibenion esboniadol yn unig y mae’r ffigurau yn y tablau.
Byddwn yn talu eich arian i’ch cyfrif banc mewn 3 rhandaliad, unwaith ar ddechrau pob tymor fel rheol. Os yw eich cwrs yn para mwy na blwyddyn, bydd yr arian yn cael ei rannu’n gyfartal ar draws pob un o flynyddoedd eich cwrs.
Er enghraifft, pe baech yn cael £18,430 ac yn astudio am 2 flynedd, byddech yn cael oddeutu £9,215 bob blwyddyn mewn 3 rhandaliad o oddeutu £3,071 bob tymor. Fel rheol, bydd eich rhandaliadau terfynol ym mhob blwyddyn academaidd ychydig yn fwy na’ch rhandaliadau eraill.
Rhaid i chi ad-dalu unrhyw arian y byddwch yn ei fenthyca, gan gynnwys llog, pan fyddwch wedi gorffen neu wedi gadael eich cwrs.
Gwaith cymdeithasol
Os ydych yn cael bwrsariaeth gwaith cymdeithasol, gallwch wneud cais am fenthyciad Gradd Meistr sy’n werth hyd at £5150.
Help ychwanegol
Os ydych yn gymwys i gael cyllid fel myfyriwr o Gymru ac os oes gennych anabledd neu anhwylder iechyd hirdymor, Mae’n bosibl y byddwch yn gallu gwneud cais am Lwfans Myfyrwyr Anabl.
Am ragor o wybodaeth, llwythwch i lawr canllaw Lwfansau Myfyrwyr Anabl