Beth sydd ar gael


Mae’r wybodaeth hon ar gyfer myfyrwyr a ddechreuodd eu cwrs wedi 1 Awst 2024. Cael gwybod beth sydd ar gael os gwnaethoch ddechrau cyn hynny.

Gallech gael benthyciad i helpu gyda chostau eich cwrs.

Uchafswm y benthyciad sydd ar gael ar gyfer blwyddyn academaidd 2024 i 2025 yw £18,950.

Byddwn yn talu eich arian i’ch cyfrif banc mewn 3 rhandaliad, unwaith ar ddechrau pob tymor fel rheol. Os yw eich cwrs yn para mwy na blwyddyn, bydd yr arian yn cael ei rannu’n gyfartal ar draws pob un o flynyddoedd eich cwrs.

Er enghraifft, pe baech yn cael £18,950 ac yn astudio am 2 flynedd, byddech yn cael oddeutu £9,475 bob blwyddyn mewn 3 rhandaliad. Fel rheol, bydd eich rhandaliadau terfynol ym mhob blwyddyn academaidd ychydig yn fwy na’ch rhandaliadau eraill.

Rhaid i chi ad-dalu unrhyw arian y byddwch yn ei fenthyca, gan gynnwys llog, pan fyddwch wedi gorffen neu wedi gadael eich cwrs.

Help ychwanegol

Os oes gennych anabledd neu gyflwr iechyd hirdymor, efallai y gallwch wneud cais am Lwfans Myfyrwyr Anabl.

Am ragor o wybodaeth, llwythwch i lawr canllaw Lwfansau Myfyrwyr Anabl