Cam 2: Gwneud cais
Myfyrwyr israddedig llawn-amser Cymreig
Profi incwm eich cartref
Profi incwm eich cartref
Os ydych yn gwneud cais am gyllid myfyrwyr sy’n dibynnu ar incwm eich cartref, byddwn yn defnyddio incwm eich cartref i gyfrifo faint o gyllid myfyrwyr y gallwch ei gael.
Incwm eich cartref yw:
- incwm eich rhieni, os ydych dan 25 oed
- incwm un o’ch rhieni a phartner y rhiant hwnnw, os ydych dan 25 oed
- incwm eich partner, os ydych yn annibynnol ac yn byw gyda’ch partner. (Os gwnaethoch ddechrau eich cwrs cyn 1 Awst 2018, ni fydd angen gwybodaeth arnom am incwm eich partner oni bai eich bod yn 25 oed neu’n hŷn)
- incwm eich priod, os ydych yn briod
- yr incwm yr ydych yn ei gael o’ch cynilion, eich buddsoddiadau neu’ch eiddo eich hun, er enghraifft difidendau neu rent.
Byddwn yn gofyn iddynt roi manylion eu hincwm i ni’n rhan o’ch cais. Ni ddylent anfon ffurflen P60 atom yn lle rhoi manylion eu hincwm i ni. I gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â chefnogi cais, ewch i’n tudalen sy’n rhoi canllawiau.
Os ydych dan 25 oed ac wedi eich cynnal eich hun yn ariannol am o leiaf 3 blynedd ac nad ydych wedi cael unrhyw gysylltiad â’ch rhieni ers dros flwyddyn, mae’n bosibl y byddwch yn gallu gwneud cais fel myfyriwr annibynnol.