Cam 1: Cyn i chi wneud cais
Myfyrwyr israddedig llawn-amser Cymreig

Beth sydd ar gael

Mae’r wybodaeth hon ar gyfer myfyrwyr a ddechreuodd eu cwrs ar 1 Medi 2018 neu wedi hynny. Cael gwybod beth sydd ar gael os gwnaethoch ddechrau cyn hynny.


Benthyciad Ffïoedd Dysgu

Gallech gael hyd at £9,250 y flwyddyn, yn dibynnu ar faint y mae eich cwrs yn ei gostio. Ni fydd y swm a gewch yn dibynnu ar incwm eich cartref.

Byddwn yn talu eich benthyciad yn uniongyrchol i’ch prifysgol neu’ch coleg. Rhaid i chi ei ad-dalu, gan gynnwys llog, pan fyddwch wedi gorffen neu wedi gadael eich cwrs.

Help gyda chostau byw

Gallech hefyd gael cymysgedd o fenthyciad a grant i helpu gyda’ch costau byw. Bydd y swm a gewch yn dibynnu ar incwm eich cartref a’r man lle’r ydych yn byw ac yn astudio.

Mae’r tablau hyn yn dangos amcangyfrif o’r swm y gallech ei gael ar sail incwm eich cartref:

2023 to 2024

Incwm eich cartref Yn byw gyda’ch rhieni
Benthyciad Grant
£18,370 ac o dan £3,065 £6,885
£25,000 £4,020 £5,930
£35,000 £5,462 £4,488
£45,000 £6,903 £3,047
£59,200 a thro £8,950 £1,000
Cyfanswm £9,950

 

Incwm eich cartref Os nad ydych yn byw yng nghartref eich rhieni ac os ydych yn astudio y tu allan i Lundain
Benthyciad Grant
£18,370 ac o dan £3,620 £8,100
£25,000 £4,773 £6,947
£35,000 £6,512 £5,208
£45,000 £8,251 £3,469
£59,200 a thro £10,720 £1,000
Cyfanswm £11,720

 

Incwm eich cartref Os nad ydych yn byw yng nghartref eich rhieni ac os ydych yn astudio yn Llundain
Benthyciad Grant
£18,370 ac o dan £4,511 £10,124
£25,000 £5,992 £8,643
£35,000 £8,227 £6,408
£45,000 £10,461 £4,174
£59,200 a thro £13,635 £1,000
Cyfanswm £14,635

2022 i 2023

Incwm eich cartref Yn byw gyda’ch rhieni
Benthyciad Grant
£18,370 ac o dan £2,210 £6,885
£25,000 £3,165 £5,930
£35,000 £4,607 £4,488
£45,000 £6,048 £3,047
£59,200 a thro £8,095 £1,000
Cyfanswm £9,095

 

Incwm eich cartref Os nad ydych yn byw yng nghartref eich rhieni ac os ydych yn astudio y tu allan i Lundain
Benthyciad Grant
£18,370 ac o dan £2,610 £8,100
£25,000 £3,763 £6,947
£35,000 £5,502 £5,208
£45,000 £7,241 £3,469
£59,200 a thro £9,710 £1,000
Cyfanswm £10,710

 

Incwm eich cartref Os nad ydych yn byw yng nghartref eich rhieni ac os ydych yn astudio yn Llundain
Benthyciad Grant
£18,370 ac o dan £3,251 £10,124
£25,000 £4,732 £8,643
£35,000 £6,967 £6,408
£45,000 £9,201 £4,174
£59,200 a thro £12,375 £1,000
Cyfanswm £13,375

 

Enghreifftiau’n unig yw’r ffigurau yn y tablau. Byddwch yn cael llythyr hysbysiad o hawl, a fydd yn cadarnhau faint o gymorth y mae gennych hawl i’w gael yn ystod y flwyddyn academaidd.

Bydd angen i chi roi gwybod i ni os bydd eich amgylchiadau’n newid yn ystod eich cwrs, er mwyn sicrhau eich bod yn cael y cymorth y mae gennych hawl iddo.

Byddwn yn talu eich Benthyciad Cynhaliaeth a’ch grant yn uniongyrchol i’ch cyfrif banc mewn 3 rhandaliad, ar ddechrau pob tymor fel rheol.

Rhaid i chi ad-dalu eich Benthyciad Cynhaliaeth, gan gynnwys llog, pan fyddwch wedi gorffen neu wedi gadael eich cwrs. Nid oes angen i chi ad-dalu eich grant.

Bydd myfyrwyr sydd yn eu blwyddyn olaf yn cael Grant a Benthyciad Cynhaliaeth ar raddfa is oherwydd bod tymor olaf eu cwrs yn fyrrach gan eu bod yn cwblhau’r cwrs.

Os nad ydych mewn cysylltiad â’ch rhieni neu os ydych wedi derbyn gofal am gyfnod, mae’n bosibl na fydd angen i chi ddarparu manylion am incwm eich rhieni pan fyddwch yn gwneud cais. Ewch i'n tudalen ar gyfer Myfyrwyr Annibynnol i gael gwybod mwy.

Help ychwanegol

Os oes gennych anabledd neu anhwylder iechyd hirdymor

Mae’n bosibl y byddwch yn gallu gwneud cais am Lwfans Myfyrwyr Anabl.

Am ragor o wybodaeth, llwythwch i lawr canllaw Lwfansau Myfyrwyr Anabl

 

Os oes gennych blant neu oedolion dibynnol

Mae’n bosibl y byddwch yn gallu gwneud cais am:

 

Os ydych yn astudio dramor

Mae’n bosibl y byddwch yn gallu gwneud cais am Grant Teithio.

 

Os ydych yn cael budd-daliadau neu os ydych dros 60 oed

Mae’n bosibl y byddwch yn gallu gwneud cais am Cymorth Arbennig.

 

Os yw eich cwrs yn hwy na 30 wythnos a 3 diwrnod

Gallwch gael ychwanegiad at eich Benthyciad Cynhaliaeth ar gyfer pob wythnos er mwyn helpu gyda’ch costau byw:

 

2023 i 2024

2022 i 2023
Yn byw gyda’ch rhieni £93 £91
Os nad ydych yn byw yng nghartref eich rhieni ac os ydych yn astudio y tu allan i Lundain £141 £138
Os nad ydych yn byw yng nghartref eich rhieni ac os ydych yn astudio yn Llundain £179 £176

I fod yn gymwys, rhaid eich bod yn cael cyllid myfyrwyr sy’n dibynnu ar incwm eich cartref.