Cam 1: Cyn i chi wneud cais
Myfyrwyr israddedig llawn amser, ffioedd dysgu a chostau byw

Beth sydd ar gael

Mae’r wybodaeth hon ar gyfer myfyrwyr a ddechreuodd eu cwrs ar 1 Medi 2018 neu wedi hynny. Cael gwybod beth sydd ar gael os gwnaethoch ddechrau cyn hynny.


Benthyciad Ffïoedd Dysgu

Gallech gael hyd at £9,790 y flwyddyn, yn dibynnu ar faint y mae eich cwrs yn ei gostio. Nid yw’r hyn a gewch chi yn dibynnu ar incwm y cartref.

Byddwn yn talu eich benthyciad yn uniongyrchol i’ch prifysgol neu’ch coleg. Rhaid i chi ei ad-dalu, gan gynnwys llog, pan fyddwch wedi gorffen neu wedi gadael eich cwrs.

Help gyda chostau byw

Gallech hefyd gael cymysgedd o fenthyciad a grant i helpu gyda’ch costau byw. Bydd y swm a gewch yn dibynnu ar incwm eich cartref a’r man lle’r ydych yn byw ac yn astudio.

Mae’r tablau hyn yn dangos amcangyfrif o’r swm y gallech ei gael ar sail incwm eich cartref:

2026 i 2027

Incwm eich cartref Yn byw gyda’ch rhieni
Benthyciad Grant
£18,370 ac o dan £3,665 £7,020
£25,000 £4,639 £6,046
£35,000 £6,108 £4,577
£45,000 £7,578 £3,107
£59,200 a thro £9,665 £1,020
Cyfanswm £10,685

 

Incwm eich cartref Os nad ydych yn byw yng nghartref eich rhieni ac os ydych yn astudio y tu allan i Lundain
Benthyciad Grant
£18,370 ac o dan £4,330 £8,260
£25,000 £5,505 £7,085
£35,000 £7,279 £5,311
£45,000 £9,052 £3,538
£59,200 a thro £11,570 £1,020
Cyfanswm £12,590

 

Incwm eich cartref Os nad ydych yn byw yng nghartref eich rhieni ac os ydych yn astudio yn Llundain
Benthyciad Grant
£18,370 ac o dan £5,395 £10,325
£25,000 £6,906 £8,814
£35,000 £9,185 £6,535
£45,000 £11,465 £4,255
£59,200 a thro £14,700 £1,020
Cyfanswm £15,720

2025 i 2026

Incwm eich cartref Yn byw gyda’ch rhieni
Benthyciad Grant
£18,370 ac o dan £3,595 £6,885
£25,000 £4,550 £5,930
£35,000 £5,992 £4,488
£45,000 £7,433 £3,047
£59,200 a thro £9,480 £1,000
Cyfanswm £10,480

 

Incwm eich cartref Os nad ydych yn byw yng nghartref eich rhieni ac os ydych yn astudio y tu allan i Lundain
Benthyciad Grant
£18,370 ac od dan £4,245 £8,100
£25,000 £5,398 £6,947
£35,000 £7,137 £5,208
£45,000 £8,876 £3,469
£59,200 a thro £11,345 £1,000
Cyfanswm £12,345

 

Incwm eich cartref Os nad ydych yn byw yng nghartref eich rhieni ac os ydych yn astudio yn Llundain
Benthyciad Grant
£18,370 ac o dan £5,291 £10,124
£25,000 £6,772 £8,643
£35,000 £9,007 £6,408
£45,000 £11,241 £4,174
£59,200 a thro £14,415 £1,000
Cyfanswm £15,415

 

Enghreifftiau’n unig yw’r ffigurau yn y tablau. Byddwch yn cael hysbysiad o hawl a fydd yn dweud wrthych faint y byddwch yn ei gael yn ystod y flwyddyn academaidd.

Bydd angen i chi roi gwybod i ni os bydd eich amgylchiadau’n newid yn ystod eich cwrs i wneud yn siŵr eich bod yn cael y cymorth y mae gennych hawl iddo.

Byddwn yn talu eich Benthyciad Cynhaliaeth a’ch grant yn uniongyrchol i’ch cyfrif banc mewn 3 rhandaliad, ar ddechrau pob tymor fel rheol.

Rhaid i chi ad-dalu eich Benthyciad Cynhaliaeth, gan gynnwys llog, pan fyddwch wedi gorffen neu wedi gadael eich cwrs. Nid oes angen i chi ad-dalu eich grant.

Bydd myfyrwyr blwyddyn olaf yn cael cyfradd is o Fenthyciad a Grant Cynhaliaeth oherwydd bod tymor olaf eu cwrs yn fyrrach.

Os nad ydych mewn cysylltiad â’ch rhieni neu os ydych wedi derbyn gofal am gyfnod, mae’n bosibl na fydd angen i chi ddarparu manylion am incwm eich rhieni pan fyddwch yn gwneud cais. Ewch i'n tudalen ar gyfer Myfyrwyr Annibynnol i gael gwybod mwy.

Help ychwanegol

Os oes gennych anabledd neu anhwylder iechyd hirdymor

Mae’n bosibl y byddwch yn gallu gwneud cais am Lwfans Myfyrwyr Anabl.

Am ragor o wybodaeth, llwythwch i lawr canllaw Lwfansau Myfyrwyr Anabl

Os oes gennych blant neu oedolion dibynnol

Mae’n bosibl y byddwch yn gallu gwneud cais am:

Os ydych yn astudio dramor

Mae’n bosibl y byddwch yn gallu gwneud cais am Grant Teithio.

Os ydych yn cael budd-daliadau neu os ydych dros 60 oed

Mae’n bosibl y byddwch yn gallu gwneud cais am Cymorth Arbennig.

Os ydych yn astudio cwrs gofal iechyd, meddygaeth, deintyddiaeth neu waith cymdeithasol

Efallai eich bod yn gymwys i gael Bwrsariaeth.

Os yw eich cwrs yn hwy na 30 wythnos a 3 diwrnod

Gallwch gael ychwanegiad at eich Benthyciad Cynhaliaeth ar gyfer pob wythnos er mwyn helpu gyda’ch costau byw:

  2025 i 2026 2026 i 2027
Yn byw gyda’ch rhieni £96 £98
Os nad ydych yn byw yng nghartref eich rhieni ac os ydych yn astudio y tu allan i Lundain £144 £147
Os nad ydych yn byw yng nghartref eich rhieni ac os ydych yn astudio yn Llundain £184 £188

Mae’n bosibl na fyddwch chi’n gymwys am y Benthyciad Cynhaliaeth ychwanegol os ydych chi:

  • yn cael bwrsariaeth gofal iechyd neu os fyddwch chi’n cael y fwrsariaeth gofal iechyd
  • ar flwyddyn ryngosod eich cwrs.

Byddwn yn dyfarnu’r swm ychwanegol o gyllid yn awtomatig yn seiliedig ar fanylion y cwrs a ddarperir gan eich prifysgol neu goleg. Bydd eich hawl yn cynnwys y Benthyciad Cyrsiau Hir fel rhan o'ch cymorth costau byw.