Myfyrwyr sy’n dychwelyd
Os cawsoch LCA y llynedd, nid oes angen i chi ailymgeisio. I wirio eich bod yn dal yn gymwys, byddwn yn defnyddio rhif Yswiriant Gwladol eich rhieni neu warcheidwaid i wirio eu hincwm gyda CThEF. Os ydych yn dal yn gymwys, ym mis Mehefin 2025 byddwn yn anfon llythyr Dyfarniad LCA atoch ar gyfer blwyddyn academaidd 2025 i 2026.
Pan fyddwch wedi cael y llythyr hwn, dylech wirio bod y manylion i gyd yn gywir. Os oes unrhyw beth wedi newid, dylech gysylltu â ni ar unwaith.
Os yw’r holl wybodaeth yn eich llythyr yn gywir, y peth nesaf y bydd angen i chi ei wneud yw llofnodi eich Cytundeb LCA pan fyddwch yn dychwelyd i’r ysgol neu’r coleg. Dylech ei lofnodi cyn pen 13 wythnos ar ôl i chi ddychwelyd, er mwyn i’ch taliadau gael eu hôl-ddyddio i ddechrau eich cwrs.
Os na fyddwch wedi cael llythyr gennym erbyn 30 Mehefin 2025, dylech gysylltu â ni.
Incwm y cartref
Fel y llynedd, bydd eich cymhwystra i gael LCA yn dibynnu ar incwm eich cartref a’ch amgylchiadau teuluol. Mae’r tabl yn dangos faint o arian y gallech ei gael.
Incwm y cartref | Nifer y plant dibynnol (gan gynnwys y myfyriwr) | Dyfarniad |
---|---|---|
£0 - £23,400 | 1 | £40 |
£23,401+ | 1 | £0 |
£0 - £25,974 | 2+ | £40 |
£25,975+ | 1+ | £0 |
Gwirio tystiolaeth ariannol
Os cafodd eich cais ar gyfer y flwyddyn academaidd flaenorol ei gymeradwyo, mae’n bosibl y byddwn yn ysgrifennu at eich rhiant/rhieni, eich gwarcheidwad/gwarcheidwaid neu’ch partner ac yn gofyn iddynt brofi’r wybodaeth a roddwyd ganddynt yn eich cais. Gallant wneud hynny drwy lenwi’r Ffurflen Manylion Ariannol ac anfon llungopïau o unrhyw dystiolaeth y byddwn yn gofyn amdani.
Mae’n bosibl y byddwn yn gofyn am dystiolaeth:
- pan oedd eich cymhwystra i gael LCA y llynedd yn seiliedig ar y ffaith bod gennych frawd neu chwaer 16 i 20 oed oedd yn byw gyda chi ac oedd yn dal yn gymwys i gael budd-dal plant.
- pan fydd angen i ni wirio manylion ariannol a gwirio’r sefyllfa o ran eich brodyr a/neu’ch chwiorydd.
Rhaid i’ch rhiant/rhieni neu’ch gwarcheidwad/gwarcheidwaid ddychwelyd y ffurflen ac unrhyw dystiolaeth erbyn 31 Awst er mwyn i chi gael taliadau yn ystod y flwyddyn academaidd newydd.