Cyhoeddwyd: 21 Tachwedd 2022 · Diweddarwyd ddiwethaf: 21 Tachwedd 2022

Rydyn ni wedi'i gwneud hi'n haws i fyfyrwyr wneud cais am gymorth caledi ariannol


Gall myfyrwyr nawr wneud cais am gymorth caledi ariannol drwy lanlwytho'r Ffurflen Caledi Ariannol well ac unrhyw dystiolaeth gysylltiedig yn uniongyrchol i ni drwy eu cyfrif ar-lein.

Rydym wedi gweithio gyda'n Tîm Caledi Ariannol ein hunain a phartneriaid sy'n cynghori HEP er mwyn nodi'r problemau cyffredin yr oedd myfyrwyr wedi dod ar eu traws yn flaenorol wrth wneud cais am galedi ariannol.

Yn seiliedig ar fewnwelediad ac argymhellion a dderbyniwyd, rydym wedi gwneud gwelliannau i'r Ffurflen Caledi Ariannol a fydd yn caniatáu i'n haseswyr brosesu'r ffurflenni ac ymateb i geisiadau cymorth caledi myfyrwyr yn gyflymach. 

Er nad yw caledi ariannol Cyllid Myfyrwyr Cymru yn darparu unrhyw gyllid uniongyrchol ychwanegol y tu hwnt i hawl safonol myfyriwr, mae cymorth ar gael a all helpu'r rhai sy'n cael trafferthion ariannol ar draws ystod o amgylchiadau.

Gall y Tîm Caledi Ariannol ystyried ceisiadau i:

  • ohirio adennill gordaliadau benthyciad neu grant o hawl presennol myfyriwr 
  • parhau â chymorth myfyriwr os yw wedi gohirio ei astudiaethau neu dynnu'n ôl
  • ymestyn cymorth grant i ddiwedd tymor y mae myfyriwr wedi tynnu'n ôl ynddo
  • gwneud taliad yn gynnar ar ôl i gais y myfyriwr gael ei gymeradwyo
  • ddyfarnu 60 diwrnod o gyllid ar gyfer myfyrwyr sydd wedi gohirio eu hastudiaethau ar ddechrau'r flwyddyn academaidd oherwydd rhesymau'n ymwneud ag iechyd (os na chafwyd cadarnhad o gofrestriad)

Pwy sy'n gymwys i gael cymorth caledi ariannol?

Cyn iddynt gysylltu â ni i ofyn am Ffurflen Caledi Ariannol, dylai myfyrwyr sicrhau eu bod yn bodloni un o'r gofynion canlynol i wneud cais.

Gallwn dderbyn ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n bodloni’r canlynol yn unig:

  • â gordaliad ar eu cyfrif, a’u hawl wedi’i leihau i adennill y gordaliad
  • wedi atal neu dynnu’n ôl o’u hastudiaethau ac eisiau i’w cyllid gael ei ymestyn
  • angen dod â thaliad ymlaen oherwydd caledi ariannol
  • wedi tynnu’n ôl o’u hastudiaethau, wedi cael grantiau (fel Grant Gofal Plant) ac eisiau i’w cyllid gael ei ymestyn y tu hwnt i’r pwynt y gwnaethant adael eu cwrs (oherwydd y rheoliadau cyllid myfyrwyr, ni allwn dderbyn ceisiadau gan fyfyrwyr sydd wedi tynnu’n ôl ac nad ydynt wedi derbyn grantiau)

Os ydych yn cefnogi myfyriwr sy’n ystyried cyflwyno cais am galedi ariannol, gwnewch yn siŵr ei fod yn bodloni’r meini prawf hyn a’ch bod yn ymwybodol o’r amgylchiadau y gellir eu hystyried.

Bydd hyn yn helpu lleihau nifer yr atgyfeiriadau amhriodol y mae’r Tîm Caledi Ariannol yn eu derbyn ac yn caniatáu iddynt brosesu hawliadau cymwys mor effeithlon â phosibl mewn sefyllfaoedd a all fod yn straen i’r myfyrwyr hyn.

Gwybodaeth bwysig i fyfyrwyr

Wrth gynorthwyo myfyrwyr sy'n ystyried gwneud cais am galedi ariannol, rhowch wybod iddynt am y canlynol:

  • Dylai'r myfyriwr wirio ei fod wedi gwneud cais am yr uchafswm o gyllid myfyriwr yn seiliedig ar incwm ei gartref
  • Bydd angen gwybodaeth am incwm y myfyriwr a threuliau er mwyn i ni allu adolygu ei sefyllfa’n llawn
  • Bydd angen tystiolaeth i ddangos ei amgylchiadau ariannol megis copïau o’i ddatganiadau banc
  • Gwneir penderfyniadau ar geisiadau caledi ariannol yn ôl disgresiwn, felly efallai na fydd rhai ceisiadau’n cael eu derbyn
  • Gall y Tîm Caledi Ariannol gysylltu â’r myfyriwr dros y ffôn i drafod ei sefyllfa ymhellach
  • Os hoffai’r myfyriwr sefydlu Caniatâd i Rannu ar gyfer cynghorydd neu drydydd parti arall, gall wneud hynny gan ddefnyddio’r Ffurflen Caledi Ariannol
  • Efallai y bydd angen tystiolaeth bellach gan y myfyriwr i’n helpu i asesu ei gais caledi

Gwneud cais am galedi ariannol

Yn y lle cyntaf, dylai myfyrwyr sydd eisiau gwneud cais am gymorth caledi ariannol ffonio ein canolfan gyswllt ar 0300 200 4050 a gall cynghorydd roi'r Ffurflen Caledi Ariannol iddynt.

Er mwyn caniatáu i’r myfyriwr lenwi’r ffurflen a’i lanlwytho’n ddigidol atom, byddwn yn ei hanfon ato drwy e-bost, oni bai ei fod yn gofyn yn benodol am gopi papur.

Wrth ddosbarthu'r ffurflen, bydd cynghorwyr yn cadarnhau'r meini prawf cymhwyster caledi gyda myfyrwyr ac yn dweud wrthynt sut y dylent anfon eu ffurflen wedi'i chwblhau a thystiolaeth atom.

Sut i gwblhau a dychwelyd y Ffurflen Caledi Ariannol

Unwaith y bydd y Ffurflen Caledi Ariannol wedi'i rhoi i'r myfyriwr, dylai ddilyn y camau hyn:

  1. Cadw’r ffurflen i'w ddyfais a'i chwblhau.
  2. Casglu ei dystiolaeth i gefnogi ei gais, bydd y ffurflen yn egluro beth sydd ei angen arno. Yn ddelfrydol bydd y dystiolaeth mewn fformat digidol fel cyfriflen banc wedi'i lawrlwytho, gallwn hefyd dderbyn ffotograffau clir.
  3. Mewngofnodi i'w gyfrif ar-lein a dewis 'Lanlwytho tystiolaeth ategol' o dan y pennawd 'Rheoli eich cyllid myfyriwr'.
  4. Lanlwytho’r ffurflen caledi ariannol a’r dystiolaeth ategol gyda’i gilydd, gall eu lanlwytho ar wahân arafu’r broses ymgeisio.

Bydd angen i fyfyrwyr ôl-raddedig sy'n gwneud cais am galedi ariannol (taliad cynnar neu daliad trwy ataliad) ddychwelyd eu Ffurflen Caledi Ariannol drwy'r post.

Pwyntiau cyfeirio

Er y dylai myfyrwyr ddilyn y broses sefydledig i wneud cais am galedi ariannol, gellir gweld y Ffurflen Caledi Ariannol yma:

Ffurflen Cadarnhau Caledi Ariannol

Newyddion cysylltiedig