Cyhoeddwyd: 24 Awst 2021 · Diweddarwyd ddiwethaf: 23 Awst 2021

Helpu myfyrwyr i gael eu taliad cyllid myfyrwyr cyntaf


Mae’n bwysig eich bod yn helpu myfyrwyr i wybod beth y mae angen iddynt ei wneud er mwyn cael eu taliad cyllid myfyrwyr cyntaf yn brydlon.

Dylai myfyrwyr ddilyn y camau canlynol i wneud yn siŵr eu bod yn cael eu talu’n brydlon:

  1. Dylent wneud yn siŵr eu bod wedi anfon eu cais ac wedi darparu unrhyw dystiolaeth y mae arnom ei hangen. Gallant fewngofnodi i’w cyfrif ar-lein a gwirio nad oes dim yn weddill yn y rhestr o bethau y mae angen iddynt eu gwneud. Os na allant weld y rhestr, mae hynny’n golygu nad oes angen iddynt wneud dim.
  2. Dylent wirio fod eu manylion banc yn gywir yn eu cyfrif ar-lein. Os oes angen iddynt eu diweddaru, dylent wneud yn siŵr eu bod yn gwneud hynny o leiaf 4 diwrnod cyn dyddiad eu taliad.
  3. Dylent gofrestru ar eu cwrs. Ni allwn wneud taliadau iddynt nes y bydd eu prifysgol neu’u coleg wedi cadarnhau eu bod wedi cofrestru. Os nad ydynt wedi gwneud hynny’n barod, dylent gofrestru cyn gynted ag sy’n bosibl.

Ewch i’n tudalen am daliadau neu gwyliwch ein ffilm ynghylch 'Cael eich talu' ar YouTube i gael rhagor o wybodaeth.

Cael eich talu - 2021 i 2022

Cyn dechrau’r tymor bydd angen i chi sicrhau eich bod yn cael eich arian mewn pryd. Gwyliwch ein fideo i ddysgu mwy.

Os gwnaethant gais yn hwyr

Os yw’r myfyrwyr yn gwneud cais yn awr, dylent gael rhywfaint o arian o hyd yn agos i ddechrau eu cwrs, cyhyd â’u bod wedi darparu unrhyw dystiolaeth y mae arnom ei hangen a bod eu cais yn cael ei gymeradwyo.

Oherwydd eu bod yn gwneud cais yn hwyr, mae’n bosibl y byddant yn cael taliad llai i ddechrau.

Dywedwch wrth y myfyrwyr y dylent wneud yn siŵr bod eu rhiant/rhieni neu’u partner wedi darparu manylion am eu hincwm, fel y gallwn ailasesu eu hawl ac ychwanegu at eu taliad cyntaf cyn gynted ag sy’n bosibl.

Caniatâd i rannu

Efallai y bydd rhai myfyrwyr yn ei chael yn anodd ymdrin â’u cais am gyllid myfyrwyr, felly dylech eu hannog i drefnu ‘caniatâd i rannu’ yn eu cyfrif. Gallant ein ffonio er mwyn rhoi caniatâd i un o ymarferwyr eu Darparwr Addysg Uwch ffonio ar eu rhan, a’u helpu i ymdrin ag unrhyw broblemau y maent yn eu cael gyda’u cyllid myfyrwyr.

Newyddion cysylltiedig