Cyhoeddwyd: 24 Ebrill 2023

Mae’n bryd i fyfyrwyr wneud cais am gyllid myfyrwyr ôl-raddedig!


Mae’r cyfnod i wneud ceisiadau am Gyllid Graddau Meistr Ôl-raddedig a Benthyciadau Graddau Doethur Ôl-raddedig ar gyfer 2023 i 2024 wedi agor erbyn hyn!

Y ffordd hawsaf i fyfyrwyr wneud cais yw ar-lein.

Mae’n bwysig eu bod yn gwneud cais cyn gynted ag y bo modd neu mae’n bosibl na chânt eu talu mewn pryd ar gyfer dechrau eu cwrs.

Cael gwybod pa gyllid sydd ar gael yn 2023 i 2024

Ewch i’n tudalennau i gael gwybod pwy sy’n gymwys, faint o arian y gall myfyrwyr ei gael a pha help ychwanegol sydd ar gael i fyfyrwyr ag anabledd.

I gael rhagor o wybodaeth, gwyliwch ein ffilmiau sy’n esbonio Cyllid Graddau Meistr Ôl-raddedig a Benthyciadau Graddau Doethur Ôl-raddedig.

Newyddion cysylltiedig