Cyhoeddwyd: 07 Ebrill 2022  · Tagiwyd yn:  2022 i 2023 Cyllid myfyrwyr israddedig: Rhan-amser  a  Cyllid myfyrwyr ôl-raddedig

Y cyfnod i fyfyrwyr israddedig rhan-amser a myfyrwyr ôl-raddedig wneud cais yn agor yn fuan!


Disgwylir i geisiadau am gyllid myfyrwyr israddedig rhan-amser ac ôl-raddedig agor yn yr haf.

Gadewch i fyfyrwyr wybod mai nawr yw’r amser i ddechrau paratoi. Gallant weld beth sydd ar gael a chael llawer o wybodaeth bwysig ar:

www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk/cyllid-ol-raddedig/

www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk/cyllid-israddedig/israddedig-rhan-amser/

Gall myfyrwyr ymuno â’n rhestr bostio yn awr er mwyn bod ymhlith y cyntaf i gael gwybod pryd y bydd y cyfnod i wneud ceisiadau yn agor!

Dylech roi gwybod i’ch myfyrwyr y gallant ymuno â’n rhestr bostio os ydynt yn bwriadu astudio cwrs israddedig rhan-amser neu gwrs ôl-raddedig yn ystod blwyddyn academaidd 2022 i 2023.

Anogwch eich myfyrwyr i ymuno er mwyn sicrhau eu bod yn gwneud cais yn brydlon fel bod eu cyllid yn barod ar gyfer dechrau eu cwrs.

Newyddion cysylltiedig

2025 i 2026: Mae’r cyfnod i fyfyrwyr rhan-amser wneud cais ar agor yn awr!

Mae’r cyfnod i fyfyrwyr rhan-amser wneud cais am gyllid myfyrwyr ar gyfer 2025 i 2026 ar agor yn awr.

2025 i 2026: Mae ceisiadau Ôl-raddedig ar agor!

2025 i 2026: Mae ceisiadau Ôl-raddedig ar agor!

Ceisiadau ôl-raddedig 2025 i 2026 yn agor yn fuan!

Disgwylir i geisiadau ôl-raddedig agor o ddiwedd mis Ebrill 2025.