Trawsgrifiad - Sut mae gwneud cais 2023 i 2024


“Y ffordd gyflymaf a hawsaf o wneud cais am gyllid myfyrwyr yw ar-lein. Gallwch wneud cais yn Gymraeg neu yn Saesneg.

Dylech wneud cais cyn y dyddiad cau er mwyn sicrhau eich bod yn cael eich arian i gyd mewn pryd ar gyfer dechrau eich cwrs.

Os byddwch yn gwneud cais yn hwyr, gallai eich arian gyrraedd yn hwyr hefyd.

Peidiwch â phoeni os nad oes lle wedi’i gadarnhau ar eich cyfer mewn prifysgol neu goleg.

Gallwch ddefnyddio’r dewis yr ydych yn ei ffafrio, a newid y manylion ar-lein yn nes ymlaen os oes angen.

I gwblhau eich cais, bydd arnoch angen eich pasbort dilys ar gyfer y DU, eich rhif Yswiriant Gwladol a’ch manylion banc – felly sicrhewch fod y rhain gennych wrth law.

Os byddwch yn gwneud cais am gyllid sy’n dibynnu ar incwm eich cartref, bydd angen i’ch rhieni neu’ch partner roi rhai manylion i ni hefyd.

I gael gwybod mwy am sut mae gwneud cais am gyllid myfyrwyr, gan gynnwys pa dystiolaeth y gallai fod angen i chi ei hanfon atom, ewch i www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk yn awr.”