Trawsgrifiad - Cael eich talu 2023 i 2024


“Cyn dechrau’r tymor, byddwch am sicrhau eich bod yn cael eich arian mewn pryd.

Dyna pam y mae’n bwysig i chi gymryd y camau canlynol.

Yn gyntaf, gwiriwch eich bod wedi cyflwyno’r dystiolaeth ategol gywir, os oes ei hangen, gyda’ch cais. Yna, cofrestrwch yn eich prifysgol neu’ch coleg ar ddechrau’r tymor. Ni fyddwn yn gwneud eich taliad cyllid myfyrwyr cyntaf nes y byddwch wedi cofrestru.

Hefyd, sicrhewch fod gennym y manylion diweddaraf am eich cyfrif banc. Y ffordd hawsaf o wneud hynny yw drwy fewngofnodi i’ch cyfrif. Bydd eich cyfrif hefyd yn dangos eich dyddiadau talu a’ch cais.

Bydd eich benthyciad ffïoedd dysgu yn cael ei dalu mewn 3 rhandaliad yn syth i’ch prifysgol neu’ch coleg.

Bydd grantiau a benthyciadau hefyd yn cael eu talu ar yr un adeg drwy gydol y flwyddyn academaidd. Bydd y rhain yn cael eu talu’n syth i’ch cyfrif banc.

Dylech ganiatáu ychydig o ddiwrnodau gwaith i’r arian gael ei dalu i mewn i’ch cyfrif banc. Mae mor hawdd â hynny!”