Cyhoeddwyd: 03 Mai 2023
Mae taliadau LCA yn cynyddu!
O 17 Ebrill 2023, bydd swm taliad myfyrwyr sydd â hawl i LCA yn cynyddu o £30 yr wythnos, i £40 yr wythnos!
Os ydych yn cael LCA ar hyn o bryd, y taliad cyntaf a gewch ar y swm uwch newydd fydd dydd Mawrth 9 Mai, cyn belled â’ch bod yn bodloni meini prawf presenoldeb eich ysgol neu goleg.
Darganfyddwch a ydych yn gymwys i gael LCA
Mae tua 16,000 o fyfyrwyr yn cael LCA yng Nghymru ar hyn o bryd. I ddarganfod a ydych yn gymwys i gael LCA, edrychwch ar ein tudalen cymhwyster.
Sut i wneud cais am LCA
Gallwch godi pecyn cais LCA o'ch ysgol neu goleg, neu ewch i'n tudalen Sut a phryd i wneud cais.
Rhagor o wybodaeth
I gael rhagor o wybodaeth am y cynnydd mewn taliadau LCA, gallwch ddarllen datganiad i’r wasg Llywodraeth Cymru (yn agor mewn tab newydd).